Sialens Amgueddfa
22 Awst 2012
,Treuliodd deg o bobl ifanc bedwar diwrnod yn ystod gwyliau’r haf yn ein helpu i wneud arddangosiadau’r morfil a’r môr-grwban yn fwy deniadol i deuluoedd.
Dyma nhw’n cofrestru ar gyfer y sialens drwy ?yl Ddysgu’r Haf Caerdydd, sy’n gwahodd plant 12-15 oed i ddysgu sgiliau newydd yn eu hamser sbâr. Dyma nhw’n dysgu sut i werthuso arddangosfa, dewis stori dda, ysgrifennu testun diddorol a dewis gwrthrychau er mwyn creu arddangosfa deniadol i deuluoedd.
Mewn pedwar diwrnod byr, dyma nhw’n creu arddangosiadau newydd a phosau i deuluoedd eu mwynhau. Mae ei gwaith yn cael ei ddangos drwy gydol gwyliau’r haf ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Dewch i weld eu gwaith dros eich hunain yn oriel y morfil yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Diolch o galon i:
Jasmine Coombes, Emily Frankish, Aled Gomer, Thomas Griffiths, Samantha Hardy, Stephen Lloyd, Simon Naylor, Maxwell Piper, Anna Rees, Mollie Shand.