Hafan y Blog

Cyfri dyddiau�r Crocws!

Danielle Cowell, 1 Chwefror 2013

Mae’r crocws yn dechrau blodeuo ddiwedd mis Ionawr, felly bydd eich planhigion chi’n blodeuo unrhyw ddiwrnod! Am gyffrous! Cofiwch edrych ar eich planhigion crocws bob dydd i weld os yw’r blodau wedi agor a chofnodi’r dyddiad a thaldra’r planhigyn.

Bydd blodyn y crocws yn borffor gydag anther a stigma oren (y rhannau yng nghanol y petalau). Gallan nhw dyfu i daldra o 10cm.

Peidiwch â phoeni os nad yw’r blodau wedi ymddangos eto! Bydd y tywydd oer a’r eira dros yr wythnosau diwethaf wedi arafu’r broses. Wrth i’r tymheredd gynhesu gall y blodau ymddangos yn sydyn, felly cadwch lygad arnyn nhw!

Diolch yn fawr

Artho'r Ardd

Danielle Cowell

Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.