Hafan y Blog

Yn ôl traed Wallace

Ciara Hand, 3 Hydref 2013

Yr wythnos diwethaf, teithiodd staff Amgueddfa Cymru a myfyrwyr lleol i Gwm Nedd  i astudio bywyd Alfred Russel Wallace, ac i ganfod ysbrydoliaeth o’i anturio yn ne Cymru.

Dyma ni’n treulio diwrnod yn dilyn yn ôl ei draed o Bontneddfechan i raeadr Sgwd Gwladys, yn astudio daeareg a bioleg y daith, gyda chymorth arbenigwyr Amgueddfa Cymru.

Adeg ei farwolaeth ganrif yn ôl, cai Alfred Russel Wallace ei gyfri’n un o fawrion olaf Oes Fictoria. Mae Wallace yn fwyaf enwog am ddarganfod proses esblygiad drwy ddethol naturiol, ar y cyd â Charles Darwin, ond prin yw’r bobol heddiw sy’n cofio am Wallace.

Cafod Wallace ei ysbrydoli gan dirlun de Cymru, a treuliodd flynyddoedd lawer yn crwydro’r cymoedd yn mapio hanes natur. Bydd ffotograffau, fideos, brasluniau a chyfweliadau’r myfyrwyr yn dod yn rhan o arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Ionawr 2014. Bwriad yr arddangosfa hon fydd adrodd hanes Wallace yng Nghymru, a gobeithio bydd yn sbardun i rywun arall fynd ati i anturio.

Cynhaliwyd y project hwn diolch i gefnogaeth hael un o Noddwyr Oes Amgueddfa Cymru

Bydd arddangosfa ar fywyd Wallace yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 19 Hydref.

Ciara Hand

Rheolwr Cynllunio
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.