Hafan y Blog

O Jyngl Brasil i Ddethol Naturiol

Ciara Hand, 10 Hydref 2013

Parhau i ddathlu bywyd Alfred Russel Wallace...

Croesawyd dros 300 o fyfyrwyr Lefel-A i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer digwyddiad arbennig ar y cyd ag Ysgol Gwyddorai’r Ddaear a’r Môr Prifysgol Caerdydd.

Ar wahoddiad Athro Dianne Edwards F.R.S, rhoddodd yr Athro Steve Jones F.R.S chyflwyniad dan y teitl ‘Ai anifail arall yw dyn?’

Trafododd yr Athro Jones y cyndeidiau sydd gennym ni a phrimatiaid eraill yn gyffredin, y dystiolaeth enetig dros esblygiad dyn, a gwahaniaeth barn Wallace a Darwin ar y pwnc. Mae’r Athro Steve Jones yn Athro Emeritws Geneteg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain ac yn awdur nifer o lyfrau gwyddoniaeth poblogaidd.

A rhoddodd Theatr na nÓg yn berfformiad ardderchog o'u chwarae You Should Ask Wallace.

Aeth y ddrama â ni ar daith o blentyndod Wallace yng Nghymru i’w anturiaethau anhygoel i’r Amazon ac archipelago Malay, lle datblygodd ei theori am esblygiad. Ei ddarganfyddiadau ef sbardunodd Darwin i gyhoeddi ei waith arloesol ar y pwnc.

Bydd arddangosfa o fywyd Wallace yn agor ar 19 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ciara Hand

Rheolwr Cynllunio
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.