Y Fforymau Cyfranogi
14 Hydref 2013
,Helo, a chroeso i gofnod cyntaf ein cylchlythyr rheolaidd am ddatblygiad Fforymau Cyfranogi Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Fel rhan o’r project ailddatblygu cyffrous (diolch i grantgan Gronfa Dreftadaeth y Loteri), mae’r Amgueddfa wedi bod yn datblygu dulliau o ymgysylltu â’r cyhoedd a thrafod â chynrychiolwyr sefydliadau’r trydydd sector ac unigolion o Fôn i Fynwy. Mae'r grwpiau yn nodweddiadol am eu bod yn rhan o'n ffordd newydd o weithio, ac yn gam sylweddol tuag at ein nod o fod yn amgueddfa sy'n wirioneddol gyfranogol.
Bydd trin a thrafod yn thema amlwg yn yr orielau newydd. Mae’r curaduron yn gweithio gyda’r tîm dylunio, Event, i ddatblygu dulliau o gofnodi barn ac ymateb y cyhoedd i wrthrychau. Ar hyn o bryd, y bwriad yw parhau â’r drafodaeth ar-lein trwy greu fforwm fydd yn lle i bobl ymateb i’r orielau a’i gilydd gan greu llwyfan drafod ac ysbrydoli gweddill datblygiad yr Amgueddfa.
Mae nifer o faterion y bydd yn rhaid i ni fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn cynrychioli Cymru gyfan, gan gynnwys:
- creu cysylltiadau â grwpiau cymunedol clos sydd o bosib o’r farn nad yw’r Amgueddfa yn cynrychioli eu hanes
- mynd i’r afael â rhwystr tlodi er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa’n hygyrch i bawb
- sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer pobl o bob oed, gallu a chefndir.
Y prif nod yw sicrhau ein bod yn cynrychioli Cymru heddiw ac ein bod yn cyrraedd pob cwr o’r genedl. O adrodd a thrafod ein hanturiaethau, gallwn ddatrys y materion hyn. Gallwn ni gynrychioli pawb yng Nghymru ben baladr trwy sicrhau y gall unrhywun weld ein datblygiadau a chymryd rhan yn y drafodaeth.
Felly beth am agor y drafodaeth? Thema’r oriel gyntaf fydd ‘Dyma yw Cymru’. Bydd yn trafod y syniadau ystrydebol am Gymreictod ac yn rhoi cyfle i drafod ystyr Cymru i eraill, a datblygiad Cymru trwy hanes. Felly, beth yw Cymru i chi? Rydyn ni’n datblygu Cwmwl Geiriau anferth o ymatebion. Defnyddiwch y ddolen isod i anfon pum gair atom sydd, yn eich barn chi, yn crynhoi Cymru. Byddwn yn eu hychwanegu at ein Cwmwl Geiriau ac yn dangos y canlyniadau yma!
Cliciwch yma i anfon eich geiriau chi
Nawr, beth am eich cyflwyno i’r Grwpiau Fforwm a rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am sut maen nhw’n helpu’r Amgueddfa i gyrraedd y nod…