Hafan y Blog

Y Fforymau Cyfranogi 2013-10-29

Penny Dacey, 29 Hydref 2013

Y Fforwm Amrywiaeth

 

Dyma grŵp o gynrychiolwyr sefydliadau sy’n gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol amrywiol. Sefydlwyd y grŵp gyda’r nod o sicrhau y bydd ailddatblygiad Sain Ffagan yn hygyrch, o ddiddordeb i bawb ac yn cynrychioli pawb. Cafwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Ebrill a thrafodwyd dulliau o gydweithio, dulliau o ymgysylltu â chynulleidfaoedd allweddol a phwysigrwydd datblygu modelau arfer gorau.

O ganlyniad i’r Fforwm, cymerodd grŵp o gynrychiolwyr Cymunedau yn Gyntaf De Glan yr Afon ran mewn gweithdai dehongli ym mis Awst. Ymhlith y gwrthrychau a drafodwyd roedd delw o’r dduwies Durga a chyfres o wrthrychau archaeolegol yn ymwneud â’r gweddillion dynol hynaf i’w canfod yng Nghymru. Dywedodd y curaduron ei bod yn braf gweld y gwrthrychau trwy lygaid newydd. Roedd y grŵp yn awyddus i osod y gwrthrychau yng nghyd-destun hanes y byd – dull diddorol fyddai’n helpu i ymgysylltu â’r rhieni o gefndiroedd amrywiol sy’n byw yng Nghymru a’r holl ymwelwyr tramor yr Amgueddfa.

 

 

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.