Gwylio Adar yr Ardd Hywel Couch, 31 Ionawr 2014 Penwythnos diwethaf, ymunodd miloedd o bobl mewn gyda’r arolwg adar mwya’r byd - Gwylio Adar yr Ardd gyda’r RSPB! Ar ddydd Sadwrn, wnes i ymuno gyda’r hwyl trwy wneud trîts bach i’r adar gydag ymwelwyr i’r amgueddfa. Wedi fy ysbrydoli, nes i dreulio ychydig amser yn y guddfan adar yma yn Sain Ffagan. Dyma gwpwl o lunie o be welais…Wnaethoch chi gymryd rhan yn yr arolwg? Be welsoch yn eich gardd? Cofiwch i adrodd yn ôl i’r RSPB - Big Garden Bird WatchDilynwch bywyd gwyllt Sain Ffagan ar Twitter Hywel Couch Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli Cysylltwch â Hywel Couch Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.