Y Fforymau Cyfranogi
25 Chwefror 2014
,Y Fforwm Addysg Anffurfiol
Yn y cyd-destun hwn, mae Addysg Anffurfiol yn cyfeirio at addysg y tu hwnt i gwricwlwm yr ysgol. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws Cymru sy’n hwyluso addysg i oedolion a theuluoedd. Roedd y rhan fwyaf o’r aelodau eisoes yn gyfarwydd â’r project gan eu bod wedi cymryd rhan mewn gweithdai yn ystod y cam cynllunio. Penderfynwyd y bydd y grŵp yn helpu i ddatblygu rhaglen o weithgareddau sy’n apelio at bobl o bob math o gefndiroedd a lefelau gallu ac yn adolygu cynnwys yr orielau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu dulliau dehongli priodol ar gyfer y cynulleidfaoedd hyn.
O ganlyniad i’r Fforwm, cymerodd grŵp o oedolion sy’n ddysgwyr o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ran mewn gweithdai dehongli ym mis Gorffennaf. Roedd y gweithdai’n gyfle i aelodau’r grwp ddweud eu dweud am yr eitemau y bwriedir eu harddangos yn oriel Dyma yw Cymru. Roedd y gwrthrychau gafodd eu hastudio’n agos yn cynnwys cwilt teiliwr a gwrthrychau o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y sesiynau eu hwyluso gan guraduron sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r gwrthrychau gan sicrhau y bydd yr adborth yn cael effaith uniongyrchol er eu gwaith