Golwg ar y Casgliadau Diwydiant
29 Gorffennaf 2014
,Croesawyd amrywiaeth o gaffaeliadau newydd i’r casgliadau Diwydiant a Thrafnidiaeth ym mis Gorffennaf eleni eto. Ymhlith yr eitemau newydd mae -
Offer mesur danheddog a ddefnyddiwyd yn chwarel Dinorwig i farcio/mesur llechi to cyn eu torri. Safonwyd enwau a maint llechi to ym 1738 pan ddyfeisiodd y Cadfridog Hugh Warburton (cydberchennog Ystâd y Penrhyn ar y pryd) system enwi llechi o wahanol faint. Gan eu mesur mewn modfeddi, rhoddwyd enwau ‘menywod bonheddig’ i’r llechi fel Empresses, Duchesses Mawr, Viscountesses, a Ladis Llydan. Buan y daeth y rhain yn dermau safonol y diwydiant, er bod y meintiau yn amrywio o dro i dro ac o ardal i ardal. Mae cyfanswm o ddau ddeg tri ‘dant’ ar y ffon fesur sy’n 26 modfedd o hyd. Ar y pen mae tri ‘dant’ ddwy fodfedd ar wahân (yn y pen agosaf at yr hoelen) tra bod y dau ddeg saith ‘dant’ arall un fodfedd ar wahân.
Ffon fesur hir allai gael ei defnyddio i farcio a mesur llechi mawr maint ‘Queens’. Y llechen leiaf allai gael ei marcio gan y ffon hon yw'r ‘Narrow Ladies’ (16 modfedd o hyd neu fyw).
Ar y fforch dostio hon mae llun o löwr ac arysgrif 'BIG PIT BLAENAVON'. Byddai’r fforch yn cael ei gwerthu yn siop Amgueddfa Big Pit yn niwedd y 1980au/dechrau’r 1990au. Bellach mae Big Pit yn un o wyth amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru.
Potel wag o chwisgi un brag ‘Madeira’ Penderyn yn ei bapur gwreiddiol. Lansiwyd y cwmni yn 2000 fel y Welsh Whisky Company, cyn newid yr enw’n ddiweddarach i Penderyn Distillery gan fod y cwmni wedi’i leoli ym mhentref Penderyn, y tu fewn i ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Lansiwyd chwisgi un brag Penderyn gan Dywysog Cymru ar 1 Mawrth 2004 yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Caiff ei aeddfedu i ddechrau mewn casgenni bourbon cyn ei aeddfedu ymhellach mewn barriques Madeira arbennig.
Cwmni rheilffordd Neath and Brecon a gynhyrchodd y dystysgrif cyfranddaliad hon gwerth £10. Awdurdodwyd y rheilffordd gan Ddeddf Seneddol ym 1862 a dechreuwyd cludo glo i Gastell Nedd dan yr enw Dulais Valley Mineral Railway. Gwnaed y gwaith hyrwyddo ac adeiladu gan y contractiwr John Dickson ac ef dderbyniodd y dystysgrif hon. Wedi cael caniatâd i ymestyn y rheilffordd i Aberhonddu newidiwyd yr enw i’r Neath and Brecon Railway.
Dau DVD yw’r eitem olaf. Ffilm am drychineb Glofa Albion ym 1894 wedi’i chreu gan staff a disgybl yn Ysgol Uwchradd Pontypridd yw’r cyntaf. Teitl yr ail yw ‘Memories of Old Clydach’ ac mae’n gasgliad o ffotograffau, dogfennau ac atgofion gan drigolion yr ardal yn y 1940au a’r 1950au. Mae un adran yn trafod Glofa Clydach Merthyr a gweithfeydd tunplat Players.
Mark Etheridge
Curadur: Diwydiant a Thrafnidiaeth
Dilynwch ni ar twitter - @IndustryACNMW