Myfyrwyr o Oman yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
14 Awst 2014
,Mae dwy fyfyrwraig blwyddyn olaf mewn bywydeg ac amddiffyn cnydau o Brifysgol Sultan Qaboos, Oman wedi cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer pythefnos o brofiad gwaith i ddysgu mwy am nodi dau grŵp o bryfed, pryfed a chwilod a'r technegau a ddefnyddiwn i’w hastudio. Dyma’r tro cyntaf i Sara Mohamed Ahmed Al Ansari a Salma Saif Salmin Almabsli deithio y tu allan i Oman. Ar ôl y pythefnos yma, byddent yn treulio pythefnos arall yn yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain i ehangu eu gwybodaeth o dechnegau tacsonomig cyn dychwelyd at y cynhesrwydd yn Oman.