merched y sied Bernice Parker, 23 Ionawr 2015 Mae’r defaid beichiog yn dod mewn o’r caeau'n syth ar ôl y Nadolig er mwyn cael lloches, bwyd a gofal ychwanegol – sy’n bwysig ar gyfer datblygiad yr wyn. Wnaethon nhw gael eu sganio yn y flwyddyn newydd er mwyn eu gwahanu i ddau grwp: y rhai sydd yn disgwyl oen sengl, a’r lleill sydd yn disgwyl gefeilliad neu dripledi. Mae’r marciau glas ar eu cefnau nhw yn dangos i’r ffermwyr pwy sy’n mynd i gael beth.Ar hyn o bryd mae gennym tua 100 o ddefaid magu felly dyn ni’n disgwyl 150+ o wyn. Mae ein defaid 2 blwydd oed yn wyna am y tro cyntaf. Mae dafad yn feichiog am 5 mis - mae’n dod i’w thymor ym mis Medi, wedyn mae’r hyrddod yn mynd mewn gyda'r merched ar y cyntaf o Hydref. Felly bydd wyna yn cychwyn dechrau mis Mawrth. Ni sy’n dewis y drefn yma er mwyn cael wyn i'w gweld yng nghaeau'r Amgueddfa dros y Pasg. Dros yr wythnosau nesaf mi fydden nhw’n cicio eu sodlau yn y sied, yn bwyta ac yn cysgu… Yn torheulo ac yn cael eu maldodi. Rhywle yn eu phlith nhw mae Poopsie, oen llywaeth o ddwy flynedd yn ol. Mi gafodd yr enw ar ol iddi wneud pw-pw drostai wrth i mi fwydo hi!Weithiau mae wyn llywaeth yn aros yn ddof ond mae Poopsie wedi ail ymuno a’r ddiadell erbyn hyn. Ond jyst weithiau mae na rhyw edrychiad sy’n dal fy sylw a dwi’n tybio ‘A ti di Poopsie…..? Bernice Parker Swyddog Digwyddiadau Cyhoeddus Cysylltwch â Bernice Parker sylw - (2) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Graham Davies 26 Ionawr 2015, 13:59 What an adorable little thing Poopsie is, as they all will be, no doubt. Looking forward to tracking developments over the coming weeks :) George 23 Ionawr 2015, 18:12 Great. Looking forward to more news of poopsie.