Newid yn y tymhorau
30 Ionawr 2015
,Helo Gyfeillion y Gwanwyn,
Diolch i bawb wnaeth yrru data tywydd ata i'r wythnos ddiwethaf. Yn enwedig y rhai ohonoch wnaeth yrru jôcs – daliwch ati, mae nhw’n gwneud i mi chwerthin!
Roedd rhai o sylwadau’r wythnos yma yn dweud bod y tymheredd yn codi a’r dyddiau’n mynd yn hirach, sy’n esgus perffaith i mi siarad rhywfaint am y tymhorau!
Mae yna bedwar tymor mewn blwyddyn: gaeaf, gwanwyn, haf a hydref. Mae hi’n dal yn aeaf ar hyn o bryd, y tymor oeraf.
Mae’r gwanwyn yn dechrau o gwmpas Mawrth yr 20fed (Cyhydnos y Gwanwyn) a dyma’r tymor lle bydd y rhan fwyaf o blanhigion yn blodeuo ac anifeiliaid bach yn cael eu geni wrth i’r tywydd gynhesu. Mae ŵyn bach yn y caeau yn arwydd da bod y gwanwyn wedi cyrraedd!
O fis Mehefin tan fis Medi bydd hi’n haf – y dyddiau’n hir a’r tywydd yn gynnes. Yn lwcus i chi, byddwch yn cael gwyliau hir o’r ysgol!
Bydd yr hydref yn gafael o ddiwedd Medi ymlaen – y dyddiau yn byrhau, y tywydd yn oeri, a’r dail yn troi’n oren, coch a brown cyn syrthio o’r coed. Daw’r gaeaf unwaith eto ym mis Rhagfyr a bydd yn aros efo ni tan ganol Mawrth.
Ydych chi’n gwybod pam ein bod yn cael tymhorau? Beth sy’n achosi i’r tywydd newid mor ddramatig yn ystod y flwyddyn? Mae’n digwydd achos bod y Ddaear yn troi o amgylch yr Haul ar ongl. Mae’r llun isod yn dangos y Ddaear a’r Haul. Mae’r Ddaear yn cylchdroi ar echel (dychmygwch linell yn cysylltu Pegwn y Gogledd â Phegwn y De) wrth symud o amgylch yr Haul.
Mae’n cymryd 365 diwrnod i’r Ddaear deithio unwaith o amgylch yr Haul. Hyd blwyddyn ar blaned yw’r amser mae’n gymryd i deithio o amgylch ei seren unwaith. Felly mae blwyddyn ar y Ddaear yn para 365 diwrnod.
Mae’r llun uchod yn dangos llwybr y Ddaear o amgylch yr Haul. Yr echel yw’r llinell goch trwy’r ddau begwn. Mae’r echel ar ongl wahanol i lwybr y Ddaear o amgylch yr Haul (y llinell wen doredig). Mae hyn yn golygu ein bod ar ongl fymryn yn wahanol i’r Haul bob dydd. Dyma sy’n achosi’r newid yn hyd y dydd. Mae dyddiau byrrach (gaeaf) yn golygu llai o olau a llai o wres, sy’n gwneud y gaeaf yn oerach. Mae dyddiau hirach (haf) yn golygu mwy o olau a gwres, sy’n ei gwneud yn gynhesach!
Mae’r DU yn ‘Hemisffer y Gogledd’ sy’n golygu ein bod yn nes at Begwn y Gogledd nag at Begwn y De. Yn y llun, mae Pegwn y Gogledd (y llinell goch sy’n pwyntio am i fyny) yn gwyro i gyfeiriad yr Haul ym mis Mehefin ac oddi wrth yr Haul ym mis Rhagfyr. Yr ongl hon sy’n achosi’r newid yn hyd y dyddiau wrth i’r Ddaear droi o amgylch yr Haul.
Mae gwledydd eraill yn profi’r newidiadau hyn ar wahanol adegau. Yn Awstralia mae’n haf ym mis Rhagfyr! Ac yng Ngwlad yr Iâ mae’n olau dydd am ddyddiau ar y tro yn yr haf, ac yn dywyll am ddyddiau yn y gaeaf... dychmygwch yr Haul yn tywynnu am hanner nos!
Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,
Athro’r Ardd