: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Atgofion o Wyliau Hapus wrth i Ni Aros Adre i Gadw’n Ddiogel

Ian Smith - Uwch Guradur Diwydiant Modern a Chyfoes, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 28 Mai 2020

Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i aros gartref ac aros yn ddiogel yma yng Nghymru. Yn ystod wythnos y Sulgwyn mae rhai ohonoch yn gwersylla yn yr ardd neu'n mwynhau aros yn y garafán ar y dreif. Efallai bod eraill yn hiraethu am wersylla neu garafanio yn Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd, neu anturiaethau i rai o'ch hoff fannau gwyliau ar hyd ein harfordir. Felly, i’n helpu ni i gyd gydag ychydig hiraeth am wyliau wrth i ni aros gartref, dyma Ian Smith, Curadur Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gydag ychydig o’r hanes y tu ôl i’r llun hwn:

Tynnwyd y llun hwn tua 1951. Ynddo, gwelir y teulu Dodds a oedd yn byw yng Nghaerdydd. Comisiynodd Mr Dodds y garafán ym 1950 i'w hadeiladu a'i gosod gan Louis Blow & Co yn Nhreganna, Caerdydd. Costiodd y fan £ 600.00 - ffortiwn fach yn y dyddiau hynny.

Aeth y teulu ar daith ledled De Cymru ynddi er i'r fan gael ei gadael yn barhaol ar gae ffermwr ger Casnewydd yn Sir Benfro yn y pen draw. Yno, cafodd y teulu eu holl wyliau haf tan 2009.

Y teulu creodd y cynllun a oedd yn cynnwys pethau fel top cwpwrdd arbennig y byddai crud cario'r babi yn ffitio'n berffaith iddo; gwely dwbl plygu i lawr ar gyfer Mam a Thad a sgrin rhannu derw oedd yn llithro i’w le, a oedd i bob pwrpas yn ffurfio dwy ystafell wely. Roedd cegin fach gyda stôf nwy a sinc gyda thap pwmp troed i ddarparu dŵr golchi. Roedd yn rhaid casglu dŵr yfed mewn canistr alwminiwm mawr - gwaith da i'r plant os oedd angen eu blino allan cyn mynd i’w gwely! Roedd yr adlen yn dyblu maint y lle byw ac yn darparu ardal i gadw pethau'n sych.

Yn 2009 cynigiwyd y garafán i'r amgueddfa gan Michael Dodds, a oedd erbyn hynny yn ei 70au. Mike yw'r bachgen hŷn yng nghefn y grŵp yn y llun. Mae’r garafán yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Sain Ffagan, yn Oriel ‘Byw a Bod’.

 

 

 

 

 

 

 

Gwawr y Rheilffordd

Jennifer Protheroe-Jones Prif Guradur - Diwydiant, 16 Mai 2020

Cyn dyfeisio’r trên locomotif, cyflymder a nerth y ceffyl oedd pinacl trafnidiaeth ar y tir. Newidiodd trenau stêm y cysyniad o gyflymdra’n llwyr, a gallai llawer mwy o nwyddau a phobl gael eu symud ymhellach, yn gynt ac yn rhatach.

Gweddnewidiwyd sawl agwedd o fywyd pobl gyffredin gan ddyfodiad yr oes stêm. Mewn llai na chenhedlaeth, tyfodd rheilffyrdd o fod yn ddyfeisiadau hynod i fod yn rhan ganolog o fywyd.

Dechreuodd y chwyldro ym Merthyr Tudful ar 21 Chwefror 1804 gyda’r cofnod cyntaf o daith ar gledrau dan bŵer stêm. Y dynion yng ngofal y fenter oedd y peiriannydd o Gernyw Richard Trevithick a Samuel Homfray, perchennog Gweithfeydd Haearn Penydarren.

Ffwrneisi a melinau rholio Gweithfeydd Haearn Penydarren, gyda’r ffwrneisi chwyth i’r chwith yn y cefndir. O flaen yr adeiladau ar y dde mae ceffyl yn tynnu tri llwyth o haearn bar – dechrau’r daith i Abercynon lle byddai’n cael ei lwytho ar fad i’w gludo ar hyd Camlas Morgannwg i’r porthladd yng Ngaerdydd. Llwyth o’r fath a gludwyd yn llwyddiannus gan locomotif Trevithick. Ysgythriad gan John George Wood ar gyfer ei lyfr “The Principal Rivers of Wales”, 1812.

Roedd Trevithick wedi datblygu injan stêm gwasgedd uchel gryno, llonydd, allai gael ei hadeiladu’n rhatach ac oedd yn cynhyrchu mwy o bŵer na cynlluniau tebyg o’r un maint. Cytunodd Homfray a Trevithick ar bartneriaeth i gynhyrchu injanau stêm llonydd. Yn 1801 ac 1803 roedd Trevithick wedi adeiladu a phrofi cerbydau stêm arbrofol ar y ffordd, ond heb fagu diddordeb y cyhoedd. Roedd de Cymru ar y pryd yn frith o dramffyrdd yn gwasanaethu’r  gweithfeydd dur, y chwareli a’r pyllau glo – pob un gyda cheffylau yn tynnu cerbydau ar gledrau haearn. Gobeithiodd y byddai marchnad ehangach ar gyfer ei injanau stêm pwerus petai’n gallu profi eu gwerth ar y rheilffyrdd. Yn y gobaith o ehangu ei fusnes adeiladu injanau ei hun, cytunodd Homfray i ariannu’r gwaith o adeiladu locomotif stêm.

Llwyddodd y locomotif i dynnu pum wagen yn carrio deg tunnell o haearn, a 70 o ddynion oedd wedi bachu lle ar y wageni am y daith 9¾ milltir. Dros yr wythnosau canlynol gwnaeth y locomotif sawl taith o un pen y tramffordd i’r llall.

Cafodd y locomotif gryn dipyn o gyhoeddusrwydd yng Nghymru a thu hwnt.

Gan y byddai’r cledrau brau yn torri’n aml gan y locomotif trwm, cafodd ei throi’n injan llonydd ymhen ychydig fisoedd. Adeiladodd Trevithick ddwy injan arall yn Lloegr ym 1905 a 1908, ond methodd â chanfod cefnogaeth ariannol.

Tren Cyflym y Glowyr, Rheilffordd Saundersfoot, 1900s. Gwasanaeth sylfaenol oedd efallai yn flas o’r daith gyntaf honno ar deithiau cynnar locomotif Penydarren ym 1804, pan fachodd 70 o weithwyr ar y cyfle i fwynhau’r daith ar y pum wagen. Cyflwynwyd gwasanaeth Rheilffordd Saundersfoot ym 1900 i gludo glowyr o Cilgeti i Lofa Bonville’s Court. Bathwyd yr enw eironig gan gyhoeddwr y cerdyn post.

Er bod injanau Trevithick yn fethiant masnachol, roedd y tân wedi’i gynnau. Adeiladodd peiriannwyr yng ngogledd Lloegr – Timothy Hackworth a George Stephenson yn bennaf – gyfres o injanau locomotif dibynadwy yn y 1810au i gludo wageni glo o’r pyllau i’r dociau. Arweiniodd hyn at benderfyniad Rheilffordd Stockton & Darlington i ddefnyddio trenau stêm ar ei hagor ym 1825, a’r rheilffordd stêm hir gyntaf rhwng Lerpwl a Manceinion ym 1830.

Chwarter canrif yn ddiweddarach, nid arbrawf oedd y trên stêm ond grym dibynadwy. Ymhen rhai degawdau roedd trenau stêm i’w gweld ar reilffyrdd ym mhob cyfandir.

Yr ailgread o locomotif Penydarren yn Oriel Rhwydweithiau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.      

Gellir gweld ailgread o locomotif arloesol Penydarren gan Richard Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, lle bydd hi i’w gweld yn codi stêm o hyd ar adegau.

Efallai y bydd y ffilm yma o ddiddordeb i chi hefyd:

https://museum.wales/articles/2008-12-15/Richard-Trevithicks-steam-locomotive  

 

Glo a Hinsawdd

Jennifer Protheroe-Jones –Prif Guradur Diwydiant, 15 Mai 2020

Tra bod Cymru yn gweithio'n galed i hyrwyddo agenda hinsawdd gadarnhaol, gyda tharged o 100% o drydan adnewyddadwy erbyn 2035, mae ein gorffennol diwydiannol yn taflu cysgod amgylcheddol hir. Yma mae Jennifer Protheroe-Jones, Prif Guradur Diwydiant, yn edrych ar ein hanes diwydiannol a'i effaith. 

Cyfrannodd Cymru yn gynnar ac yn ddiarwybod at newid yn yr hinsawdd. 

Dangosodd Cyfrifiad 1851 mai Cymru oedd y wlad gyntaf i fod â mwy o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiant nag mewn amaethyddiaeth. Digwyddodd y newid pwysig hwn tua chanol i ddiwedd y 1840au yn ôl pob tebyg. 

Roedd Cymru yn ganolfan ddiwydiant rhyngwladol nodedig yng nghanol y 19eg ganrif, gan ei bod yn un o'r cenhedloedd cynhyrchu haearn pwysicaf, ac yn ganolbwynt diwydiannau copr a thunplat y byd. Roedd glo – gâi ei fwyngloddio ar raddfa anferth yng Nghymru – yn sail i'r holl ddiwydiannau hyn, yn tanio ffwrneisi, yn pweru’r injans stêm a oedd yn gyrru peiriannau, a’r locomotifau a oedd yn tynnu deunyddiau crai a chynhyrchion gorffenedig. 

Môr o wagenni rheilffordd wedi'u llwytho â glo mewn seidins ger Doc y Rhath, Caerdydd, yn aros i'w cludo ym mis Mawrth 1927. Mae'r llythrennau cyntaf ar y wagenni yn nodi ystod o brif gwmnïau'r pyllau glo: Burnyeat, Brown & Co Ltd; D.Davis & Sons Ltd; Nixon’s Navigation Coal Co Ltd; United Collieries Ltd.

Roedd glo ager o Gymru yn ddelfrydol ar gyfer codi ager. Mae'n llosgi heb lawer o fwg, yn creu ychydig o ludw ac yn cynhyrchu llawer iawn o wres. Wrth iddo losgi, mae glo ager yn agennu ond nid yw'n hollti’n ddarnau bach. Mae'r agennau yn caniatáu i'r glo losgi o'r tu mewn yn ogystal ag o'r tu allan, sydd yn cynyddu’r gwres yn sylweddol ac felly’n cynyddu priodweddau codi ager y tanwydd. Oherwydd nad yw’n torri'n ddarnau bach wrth losgi, mae'n eistedd ar ben y bariau tân, yn hytrach na disgyn trwy'r bariau fel darnau bach o lo heb eu llosgi a fyddai'n mynd yn wastraff ymysg y lludw. Mae'r nodwedd hon yn arbennig o berthnasol i danwydd a ddefnyddir mewn locomotifau, oherwydd mae dirgryniad y locomotif wrth iddo symud ar hyd y trac yn tueddu i wneud i danwydd o ansawdd is i dorri'n ddarnau bach sy'n cael eu gwastraffu pan fyddant yn syrthio trwy'r bariau tân i mewn i’r pwll lludw. Roedd y rhinwedd hwn yn golygu bod galw mawr am lo stêm Cymru.

Golygfa o'r awyr yn edrych i'r de-ddwyrain dros Waith Dur Caerdydd (East Moors) tua 1960.

Ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, roedd symiau enfawr o lo yn cael eu defnyddio gan ddiwydiannau yng Nghymru, ond roedd mwy fyth yn cael ei allforio. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, de Cymru oedd maes glo pwysicaf y byd o ran allforio glo , gan gyflenwi glo stêm yn rhyngwladol. O ran ynni, roedd Môr Hafren ar yr adeg hon yn cyfateb i Gwlff Persia ganrif yn ddiweddarach. Os mai tanwydd o ansawdd uchel a fedrai bweru ystod eang o beiriannau oedd ei angen, yna porthladdoedd glo de Cymru oedd y lle i'w gael.

Yn y 19eg ganrif roedd gweld mwg o bentyrrau simneiau gweithfeydd yn cael ei ystyried yn arwydd o ffyniant. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd mwg o losgi glo yn cael ei gydnabod fwyfwy fel niwsans, ond hefyd fel rhywbeth anochel. Dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd y dechreuwyd gwneud ymdrechion difrifol i leihau’r mwg o ddiwydiannau ac o danau glo mewn cartrefi – ac erbyn hynny roedd olew wedi datblygu’n ffynhonnell ynni pwysicach na glo ar draws y byd.

Mae llosgi glo, olew a nwy naturiol yn rhyddhau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Yn rhyngwladol, caiff glo ei ddefnyddio’n bennaf wrth gynhyrchu trydan, cynhyrchu sment ac wrth wneud dur. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio glo yn y diwydiant cynhyrchu trydan yng Nghymru ym mis Mawrth 2020; mae’n parhau i gael ei ddefnyddio yn y diwydiannau dur a sment.

Arllwys llond wagen o lo yn Nociau Caerdydd, dechrau'r 20fed ganrif. Roedd rhai mathau o lo yn tueddu i dorri'n fân, felly, yn lle tipio'r wagenni yn uniongyrchol i grombil llongau o uchder sylweddol, roedd y glo yn cael ei dywallt i 'flwch gorchuddio' patent Lewis Hunter (sydd i'w weld o dan y llwch glo helaeth) gâi wedyn ei godi gan graen ar ochr y doc ar y chwith, a'i ostwng i howld y llong llong, gan leihau'r uchder gollwng.

Cloddiwyd meysydd glo Cymru yn ddwys yn y 19eg ganrif a chyrhaeddodd y diwydiant ei uchafbwynt ym 1913, gan ddirywio wedi hynny wrth i’r glo brinhau. Yr allbwn ym 1913 oedd 60 miliwn o dunelli, ac allforiwyd ei hanner; yn 2018 roedd allbwn i lawr i 1.1 miliwn o dunelli. Roedd allbwn glo Cymru eisoes wedi dirywio'n sylweddol erbyn i newid hinsawdd gael ei gydnabod yn eang fel mater o bwys byd-eang. Bob blwyddyn mae'r byd yn cynhyrchu dros ganwaith cymaint o lo ag y gwnaeth Cymru ym 1913, pan oedd diwydiant glo Cymru ar ei anterth. Hyd yn oed yn ôl ym 1913, dim ond tua 5% o allbwn glo'r byd yr oedd Cymru yn ei gynhyrchu – ei bwysigrwydd ar y pryd oedd bod ei hanner yn cael ei allforio a'i fod yn cael ei ystyried yn danwydd premiwm ei amser.

Mae esboniad o’r rhwydwaith cymhleth o gyfathrebu a alluogodd fasnach lo ryngwladol Cymru i’w weld yn oriel y Glo, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Diwrnod i'w Gofio

Steph Mastoris - Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 13 Mai 2020

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn bymtheg oed yr hydref hwn, felly yn ddiweddar mae staff wedi bod yn edrych trwy ein harchif o'r seremoni agoriadol ar 17eg Hydref 2005.

Steph Mastoris Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn darllen barddoniaeth Gwyneth Lewis yn seremoni agoriadol yr Amgueddfa

Roedd y diwrnod hwnnw'n foment wych o ddathlu, gan fod yr amgueddfa wedi cymryd tua phum mlynedd i gynllunio, adeiladu a llenwi ag arddangosfeydd hynod ddiddorol ar stori diwydiannu Cymru dros y pedair canrif ddiwethaf. Hefyd, oherwydd bod arddangosfeydd rhyngweithiol bryd

Steph Mastoris Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn darllen barddoniaeth Gwyneth Lewis yn seremoni agoriadol yr Amgueddfa

hynny’n dal i fod yn beth newydd iawn i amgueddfeydd, roedd cryn ddiddordeb cyhoeddus yn yr hyn a oedd yn cael ei ddisgrifio fel amgueddfa ddigidol gyntaf Cymru.

Mynychodd dros 200 o westeion y seremoni agoriadol a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog (ar y pryd), Rhodri Morgan, a’r seren rygbi, Syr Gareth Edwards. Cyfansoddodd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, gerdd ddwyieithog er anrhydedd i'r amgueddfa a darllenwyd hon yn y seremoni agoriadol gan Geidwad Diwydiant yr Amgueddfa Genedlaethol, Dr David Jenkins, a finne.

Yn wir, yr oedd yn ddiwrnod i'w gofio.

Arwr Hanesyddol: Y Llywiwr Bad Achub, Richard Evans o Foelfre

Jennifer Protheroe-Jones Prif Guriadur - Diwydiant, 11 Mai 2020

Gwobr uchaf y Sefydliad Bad Achub Brenhinol am ddewrder yw ei Fedal Aur, dim ond 150 ohonynt sydd wedi'u gwobrwyo ers 1824. Yn rhyfeddol, cyflwynwyd dwy Fedal Aur i Richard Evans (1905-2001), Llywiwr Bad Achub Moelfre, Ynys Môn, am ei waith arwrol yn achub ar y môr.

Enillodd Richard Evans ei Fedal Aur gyntaf ar 27 Hydref 1959 pan achosodd corwynt yr M.V. Hindlea, llong cargo bach, i lusgo'i angor ym Mae Moelfre gan achosi iddi gael ei gyrru at yr arfordir creigiog. Fe roddodd capten yr Hindlea y gorchymyn i adael y llong pan oedd hi ond 200 llath o’r lan. Cymrodd llywiwr Evans bad achub wrth gefn Moelfre, yr Edmund a Mary Robinson, gyda chriw anghyflawn, yn agos at y llong ddeg gwaith, gan alluogi’r criw wyth dyn i neidio fesul un ar y bad achub. Yn ystod yr achub, golchwyd y bad achub ar ddec y llong ac yn ôl i ffwrdd, a bu’n rhaid i’r llywiwr symud yn beryglus o agos at bropelor y llong a oedd yn corddi ar gyflymder llawn, ar adegau allan o’r dŵr ac uwchlaw’r bad achub. Ar un adeg fe aeth y bad achub drosodd nes bod ei fast o dan y dŵr cyn dod yn ôl i fyny. Ddeng munud ar hugain ar ôl i'r olaf o'r criw gael eu hachub, tarodd yr Hindlea'r creigiau a'i dryllio.

R.N.L.B. Watkin Williams, bad achub Moelfre rhwng 1957 a 1977, lle enillodd Richard Evans ei ail Fedal Aur R.N.L.I. ym 1966. Rhoddwyd y bad achub i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1983 a'i harddangos tan 1998; mae wedi ei storio ar hyn o bryd ond gellir ei weld trwy apwyntiad.

Ar 2 Rhagfyr 1966 enillodd llywiwr Evans ei ail Fedal Aur. Roedd bad achub Moelfre, Watkin William wedi bod ar y môr ers yn gynnar y bore hwnnw ar ôl cael ei alw allan i ddau gwch mewn trafferth. Yna derbyniwyd neges bod y llong cargo o Wlad Roeg M.V. Nafsiporos yn cael ei yrru allan o reolaeth gan wyntoedd 100 milltir yr awr tuag at Bwynt Lynas, bum milltir i'r gogledd o Foelfre, ac aeth badau achub Caergybi a Moelfre i'w chymorth. Achubodd tîm achub Caergybi bump o’r criw a dioddef difrod. Dyma bad achub Moelfre yn achub deg arall o'r criw ond arhosodd y capten a thri aelod o griw’r Nafsiporos ar ei fwrdd. Ar ôl glanio aelodau’r criw a achubwyd ym Moelfre, aeth y llywiwr Evans â’r bad achub yn ôl i’r Nafsiporos a sefyll o’r neilltu drwy’r nos nes i lusgfad o Lerpwl gyrraedd a llwyddo i'w thynnu i harbwr. Dychwelodd y bad achub i Foelfre ar ôl 24 awr ar y môr; roedd y llywiwr Evans, a oedd yn 61 oed ar y pryd, wedi bod wrth y llyw trwy'r amser.

Dros ei 50 mlynedd fel llywiwr bad achub bu Richard Evans yn rhan o 179 o lansiadau a achubodd 281 o fywydau. Yn ychwanegol at ei ddwy Fedal Aur RNLI, am achubiadau eraill rhoddwyd Diolch yr RNLI iddo ar Felwm a Medal Efydd am achub yr RNLI, am yr achub ym 1959 fe'i gwobrwywyd a Medal Arian y Frenhines am ddewrder ar y môr, ac am yr achubad ym 1969 Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. Yn 1978 fe'i gwnaed yn Fardd Anrhydeddus yn yr Eisteddfod Genedlaethol.