Mary Anning – casglwraig ffosilau arloesol

Cindy Howells a Caroline Buttler, 2 Mawrth 2023

Mae Mary Anning yn cael ei chofio fel un o fenywod eiconig y 19eg Ganrif. Fe wnaeth y fenyw o gefndir gweithiol ganfyddiadau gwyddonol mawr oedd cystal â gwaith unrhyw ddynion oedd yn ddaearegwyr ar y pryd.

Ganwyd Mary ar 21 Mai 1799 yn nhref fechan Lyme Regis, yn Dorset. Saer oedd ei thad, ond bu farw pan oedd hi'n 11 oed gan adael y teulu mewn dyled a heb incwm sefydlog. Roedden nhw wedi bod yn ychwanegu at eu hincwm ers rhai blynyddoedd drwy gasglu ffosilau ar gyfer twristiaid, a daeth Mary yn dda iawn yn gwneud hyn. Roedd ganddi lygad dda am ddarnau bychan o esgyrn ffosil yn y graig, ac fe ddatblygodd hi dechneg o'u tynnu nhw'n ofalus o'r graig gyda chŷn a morthwyl. ⁠Dechreuodd ei Mam, Molly, y busnes o werthu'r ffosilau, a dyma'r ddwy yn adeiladu siop lwyddiannus oedd yn denu twristiaid a gwyddonwyr. Roedd hi'n waith caled, casglu ffosilau o'r traeth ym mhob tywydd a'u cario adref i'w glanhau a'u gwerthu. 

Pan oedd Mary yn 12 dyma hi a'i brawd, Joseph, yn canfod darnau o sgerbwd ymlusgiad 5m o hyd. Cafodd y darn ei brynu am £23 (cyflog 6 mis i lafurwr ar y pryd). Cyn hyn, roedd pawb yn meddwl taw gweddillion crocodeilod oedd y ffosilau ymlusgiaid mawr oedd i'w gweld yn yr ardal. Doedd neb yn gwybod am anifeiliaid arall tebyg. Cafodd sbesimen Mary ei astudio gan sawl gwyddonydd a daeth yn sylfaen i waith ar fath newydd o ymlusgiad morol o'r enw ichthyosaur (madfall-bysgodyn yn Lladin).

Dros y degawdau nesaf dyma Mary yn canfod nifer o ffosilau newydd ac anarferol, gan gynnwys y plesiosaur cyntaf, y pterosaur cyntaf (madfall hedegog) y tu allan i'r Almaen, a sawl pysgodyn newydd. Drwy sylwi'n glyfar ar yr hyn oedd hi'n ei ganfod, roedd hi'n gallu dehongli pethau'n wahanol. Doedd neb yn gwybod beth oedd y talpiau cyffredin o garreg galed oedd yn cael eu galw'n Gerrig Besoar, ond drwy sylwi pa mor agos oedden nhw i'r sgerbydau ichthyosaur dyma Mary'n sylweddoli taw gweddillion ffosil dom anifeiliaid oedden nhw – coprolitau. Lledodd y sôn amdani, a cyn hir roedd daearegwyr blaenllaw yn galw ac yn gofyn ei barn hi.

Roedd Mary'n gymeriad rhyfedd oedd ddim yn ffitio mewn i gategoriau arferol. Dim ond ychydig flynyddoedd o addysg yn yr ysgol Sul leol gafodd hi, ond roedd hi'n gallu ysgrifennu'n dda a mynegi'i hun yn rhugl. Ond oherwydd ei dosbarth, allai hi ddim cymysgu'n gymdeithasol â phobl oedd ar yr un lefel ddeallusol. Fel menyw, roedd hi wedi ei gwahardd yn llwyr o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, lle byddai hi wedi gallu rhannu a thrafod ei syniadau gwyddonol. Ac er bod ei henw i'w gweld mewn traethodau gwyddonol, chafodd hi byth ei chydnabod fel un o'r awduron.

Mae hi wedi cael ei disgrifio fel menyw annibynnol, hyderus, balch a pharod ei barn, ac mae ei llythyrau yn dangos pa mor chwerw oedd hi'n teimlo am ei sefyllfa. Ond gallai hi hefyd fod yn garedig a hael, a byddai'n helpu ei chymdogion pan y gallai hi.

Roedd ymwelwyr â Lyme Regis yn gallu mynd i weld ei charreg fedd a'r ffenest wydr yn ei choffau yn yr eglwys, ond yn 2022 dadorchuddiwyd cerflun iddi. Roedd hyn yn benllanw ymgyrch ryfeddol merch naw oed o'r enw Evie Swire. Dyma hi’n gofyn i'w mam, Anya Pearson, ble oedd y cerflun o Mary, a deall bod dim un i gael wnaeth ysbrydoli ymgyrch Mary Anning Rocks, wnaeth gasglu dros £100,000 i dalu am gerflun. Comisiynwyd yr artist Denise Dutton i greu'r cerflun sydd i'w weld ar lan y môr, yn dangos Mary Anning a'i chi yn camu'n bwrpasol tua'r traeth yn barod i wneud canfyddiadau cyffrous newydd.

Ar daith gyda Cranogwen

Norena Shopland, 21 Chwefror 2023

Wrth geisio creu darlun o fywydau pobl, yn enwedig rhai o’r gorffennol, y pethau bach sy’n aml yn dod â nhw'n fyw – broets neu docyn darlith efallai – ac mae dwy eitem yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn sicr yn gwneud hynny.

Mae'r ddwy yn perthyn i Cranogwen – enw barddol Sarah Jane Rees (1839–1916), capten llong, bardd, llenor, golygydd ac ymgyrchydd dirwest wnaeth fyw rhan fwyaf o'i hoes yn nhref fechan Llangrannog, Sir Aberteifi. Yno y cafodd hi’i geni, ac oddi yno fe deithiodd hi drwy gydol ei hoes nes dod erbyn troad yr 20fed ganrif yn un o ferched mwyaf adnabyddus Cymru. Dyma hefyd lle roedd hi’n byw gyda’i phartneriaid – Fanny Rees “Phania” (1853-1874) fu farw yn 21 oed, a Jane Thomas (1850-?) sy’n cael ei disgrfio yn y rhan fwyaf o’i datganiadau cyfrifiad fel ‘gweithiwr domestig’, ‘morwyn’ neu ‘glanhawraig’. 

Byddai Cranogwen yn aml oddi cartref, yn cyfrannu at fyrdd o brojectau ac yn darlithio, ond aeth ar ei thaith gyntaf ym 1866. Roedd hyn flwyddyn ar ôl ennill gwobr farddoniaeth yr Eisteddfod – oedd yn ddadleuol pan ddatgelwyd bod menyw wedi curo’r dynion. Felly, pan ddechreuodd ar ei theithiau roedd hi eisoes yn adnabyddus, fel y nododd un o newyddiadurwyr Y Gwladgarwr:

“Fe gofia y darllenydd mai y ferch ieuanc hon a gymerodd y wobr yn Eisteddfod Aberystwyth am y gan i'r Fodrwy Briodasol. Wedi clywed hynny, a deall hefyd bod ein beirdd blaenllaw, megys Islwyn a Ceiriog yn cystadlu, braidd nad oeddwn yn hanner credu fod rhyw 'faw yn y caws' yn rhywle.” [i]

Canolbwynt taith Cranogwen oedd ei darlith Ieuenctyd a Diwylliant eu Meddyliau, ond dyma hi’n ddiweddarach yn cynnwys dwy ddarlith arall, Anhebgorion Cymeriad da ac Elfennau Dedwyddwch – pob un yn trafod gwella cymeriad pobl. Gan ei bod hi'n darlithio yn Gymraeg, cafodd y darlithiau sylw yn y wasg Gymraeg a braidd dim sylw yn y wasg Saesneg. 

Dechreuodd Cranogwen ei thaith yn ardal Aberystwyth, felly gobeithio bod Jane wedi gallu mynd gyda hi i gynnig rhywfaint o gefnogaeth. Ond wrth i’w darlithoedd ddod yn fwy poblogaidd roedd Cranogwen yn teithio ymhellach oddi cartref, ac o fewn deufis daeth bron i fil o bobl i wrando arni yng Nghapel Brynhyfryd Abertawe – tipyn o her i unrhyw un felly gobeithio bod Jane yno i i’w chefnogi.

Lledodd y sôn amdani’n gyflym, ac fel y nododd un o newyddiadurwyr Baner ac Amserau Cymru: ‘Nid oes angen yn y byd myned i drafferthu rhoddi canmoliaeth i'r ddarlithyddes hon, o herwydd mae ei henw wedi myned eisoes yn eithaf adnabyddus bron trwy Gymru.[ii]

Roedd yn cael ei chanmol ym mhobman gan wneud i un newyddiadurwr feddwl i ddechrau na fedrai fod cystal ag yr oedd pobl yn ei ddweud: ‘a chan ein bod wedi clywed y fath ganmoliaeth iddi, yr oeddym yn dysgwyl ei bod yn dda. Ond ni ddaeth erioed un ddychymyg i galon neb o honom ei bod mor gampus ag y mae, ac mor feistrolgar ar ei gwaith.’ [iii]

Dro ar ôl tro cafodd adolygiadau gwych a tyfodd ei darlith awr yn ddwy awr a mwy wrth i bwysigion lleol ymddangos ar y llwyfan ochr yn ochr â hi, gan fynnu siarad hefyd. Heidiai beirdd lleol ati, gan ysgrifennu englynion iddi, a llawer o'r rheini'n cael eu cyhoeddi yn y papurau. Roedd merched hefyd yn dilyn ôl ei throed ac yn camu i’r llwyfan. 

Roedd hyn yn achosi pryder. 

Ddylai merched, yn enwedig ‘merched ifanc’ (roedd hi’n 27 ar y pryd) ddim darlithio, meddai’r dynion oedd yn cwyno bod merched yn siarad yn gyhoeddus ynamhriodol. ‘The inhabitants of South Wales,’ meddai'r Cardiff Times, ‘are running wild with the young ladies who are lecturing about the country [and] in the opinion of many eminent men this is going too far.

At the recent meeting of the Association of the Calvinistic Methodists held at Caernarvon, the Rev. Henry Rees, and eminent minister, whose name is known through the Principality, spoke against female preachers, and stated that it would be far more becoming in those who are fond of preaching to attend to those duties which belong to their sex. We are glad that a gentleman of Mr Rees’s standing has set his face against this new mania.[iv]

‘Ai nid gartref mae lle y merched hyn?’ gofynnodd Seren Cymru 'a ydym yn barod i weled ein heglwysi yn cael eu britho, os nad yn gorlifo â merched yn darlithio.’[v]

Anwybyddodd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y cwyno, a pharhau i ganmol Cranogwen. 

Roedd y sgyrsiau fel arfer yn cychwyn am 7pm gyda thocynnau yn 6d (tua £2 heddiw). Roedd y cynulleidfaoedd yn enfawr a nifer yn nodi sut y byddai gwrandawyr yn aml yn eistedd wedi'u cyfareddu am ddwy awr yn nodio mewn cytundeb, cyn rhoi cymeradwyaeth fyddarol iddi. Nodwyd bod elw bron pob un o'i sgyrsiau yn mynd i dalu dyledion capeli. 

Parhaodd Cranogwen i deithio drwy gydol 1867 ac mae dyddiad 2 Ionawr ar y tocyn sydd yn Amgueddfa Cymru. Does dim adroddiad papur newydd ar y ddarlith ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr, ond gyda cymaint o ddarlithoedd a’r daith erbyn hyn yn flwydd oed, fyddai pob noson ddim yn cael yr sylw. 

Ym 1869–1870 aeth Cranogwen ar daith i’r Unol Daleithiau gan draddodi'r un math o ddarlithoedd – byddai angen i ni archwilio’r cofnodion mewnfudo i weld a aeth Jane gyda hi. 

Parhaodd Cranogwen â’i gwaith da ar ôl dychwelyd i Gymru, ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif dechreuodd ymwneud â'r mudiad dirwest, fel llawer o wragedd amlwg eraill. Roedd meddwdod, yn enwedig ymhlith merched, yn endemig wrth iddyn nhw geisio dianc rhag eu bywydau caled, a sefydlwyd nifer o undebau i geisio mynd i’r afael â hyn gan gynnwys Undeb Merched y Rhondda, a sefydlwyd ym mis Ebrill 1901. Roedd y mudiad mor llwyddiannus fe benderfynwyd ei ehangu, a Cranogwen, fel yr Ysgrifenyddes Defnyddol gyda’i chyfeiriad yn Llangrannog, yn allweddol yn newid yr enw i Undeb Dirwestol Merched y De (UDMD). Unwaith eto, roedd Cranogwen yn teithio'n helaeth gyda'r Undeb.

Wrth gyrraedd pob tref byddai aelodau’r Undeb yn gorymdeithio drwy’r strydoedd gan gario baneri, cyn aros mewn capel i weddïo, canu emynau a darllen o'r Beibl cyn gwrando ar areithiau gan aelodau blaenllaw. Byddai siaradwyr gwadd hefyd gan gynnwys menywod adnabyddus o Gymru fyddai’n denu'r cynulleidfaoedd yn eu cannoedd. Ar ôl y digwyddiad byddai te a theisen a chyfle i gymdeithasu, arian yn cael ei gasglu, a byddai pamffledi a bathodynnau ar gael i'w prynu. Yn dechnegol, broets yw’r enghraifft yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ac nid yw’n glir ai’r broetsys hyn oedd y bathodynnau fyddai Cranogwen yn eu gwerthu. 

Erbyn Rhagfyr 1901, roedd canghennau newydd o UDMD yn ymddangos ledled de Cymru ac erbyn i Cranogwen farw ym 1916 roedd 140 o ganghennau ar draws y De.

Roedd Cranogwen yn ddiflino, ac allwn ni ond rhyfeddu at ei hegni. Yn ogystal â’i holl weithredoedd da, roedd hi’n esiampl i gymaint o ferched ifanc i fod yn llenorion ac areithwyr, dim ots beth ddwedai’r dynion. 

Bu farw Cranogwen yn 1916 yn nhŷ ei nith yn Wood Street Cilfynydd, Rhondda Cynon Taf. ‘No other woman enjoyed popularity in so many public spheres'[vi] nododd y Cambrian Daily Leader. Yn anffodus, wyddon ni ddim pryd fu Jane farw, ond gobeithio y bydd y cofiant sydd i ddod gan Jane Aaron yn datgelu mwy. Prin bum mlynedd ynghynt roedd y ddwy yn dal i fyw gyda’i gilydd yn Llangrannog a thŷ yn y dref honno oedd y cyfeiriad a ddefnyddiodd Cranogwen am y rhan fwyaf o’i hoes. Waeth pa mor bell y byddai’n teithio, byddai bob amser yn mynd adref at Jane.  

Cofeb i Sarah Jane Rees, Llangrannog (WikiCommons)


[i]Y Gwladgarwr, 5 Mai, 1866 

[ii]Baner ac Amserau Cymru, 14 Ebrill 1866

[iii]Cardiff Times, 5 Hydref 1866

[iv]Seren Cymru, 4 Ionawr 1867

[v]Y Tyst Dirwestol Cyf. XIII rhif. 154 - Hydref 1910

[vi]Cambrian Daily Leader, 28 Mehefin 1916


 

 

Hawliau a Defodau; project newydd i ddigideiddio ac i archwilio sbesimenau botanegol o Dde Asia

Nathan Kitto a Heather Pardoe, 21 Chwefror 2023

Mae gwaith wedi dechrau ar broject a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau y DU (AHRC) sef Hawliau a Defodau, sydd, ynghyd â grwpiau cymunedol yn archwilio planhigion a chynhyrchion planhigion sy'n tarddu o Dde Asia, yn bennaf India, Pacistan a Sri Lanka. 

Mae casgliadau bioddiwylliannol Amgueddfa Cymru (sy'n cynnwys tua 5,500 o sbesimenau), yn cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion meddyginiaethol, yn enwedig planhigion sy'n bwysig mewn systemau meddyginiaethol Ayurveda a Siddha traddodiadol, cynhyrchion bwyd a deunyddiau crai. Rhoddwyd y sbesimenau yn y casgliad yn wreiddiol gan unigolion a sefydliadau, megis Gardd Fotaneg Frenhinol Kew a'r Imperial Institute. Mae'r sbesimenau bioddiwylliannol, ynghyd â sbesimenau llysieufa cysylltiedig a darluniau botanegol yn cael eu harchwilio mewn gweithdai sy'n cynnwys curaduron a grwpiau cymunedol lleol sydd â chysylltiadau â gwledydd tarddiad y sbesimenau hyn. 

Nod y project cydweithredol hwn yw cyfuno gwybodaeth wyddonol y staff curadurol ac ymchwil gydag arbenigedd aelodau lleol o'r diaspora Asiaidd, er mwyn rhoi cyd-destun diwylliannol i sbesimenau yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Ein nod yw cydweithio i gynyddu gwybodaeth am rywogaethau planhigion a ddefnyddir mewn meddygaeth, seigiau, seremonïau a diwylliant traddodiadol. Yn sgil y project, rydym yn cyd-guradu dehongliadau newydd ar gyfer sbesimenau De Asiaidd, gan fanteisio ar brofiad byw a dealltwriaeth ddiwylliannol pobl o wlad tarddiad y sbesimenau. Mae’r cofnodion diwygiedig yng nghronfeydd data ein casgliadau yn dangos y wybodaeth fotaneg wyddonol wedi’i hategu gan wybodaeth gyd-destunol am briodweddaumeddyginiaethol a choginio.

Mae hyn yn ymestyn yr hyn a wyddom am y casgliadau, gan gyfuno manylion gwyddonol â gwybodaeth am y defnydd traddodiadol a wneir o gynhyrchion y planhigion. Mae mynediad i’r sbesimenau yn y casgliad yn cael ei wella drwy ddigideiddio sbesimenau De Asia yn y casgliad a hefyd drwy gynhyrchu sganiau 3D o'r detholiad o sbesimenau. Yn ogystal, rydym yn ymchwilio i darddiad y sbesimenau botanegol dan sylw ac yn creu cofnodion parhaol newydd gyda’r cynnwys newydd a gyd-grëwyd. Rydym yn bwriadu gwneud y casgliad botaneg economaidd yn fwy hygyrch i gymunedau lleol, sefydliadau eraill a gwyddonwyr ledled y byd.

Mae'r project yn defnyddio offer sganio newydd, wedi'i brynu gan ddefnyddio grant AHRC, i sganio sbesimenau. Bydd y sganiau'n gweithredu fel catalydd i ysgogi deialog a chyfnewid gwybodaeth am fflora o India rhwng curaduron a'r gymuned ac yn y gymuned diaspora leol. 

 

Sbeisys a pherlysiau o Dde Asia

Hasminder Kaur Aulakh, 21 Chwefror 2023

Yn ddiweddar, mae curaduron o'r adran Fotaneg wedi bod yn gweithio ar broject a ariennir gan Gyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) o’r enw Hawliau a Defodau. Nod y project yw cyd-greu dehongliadau newydd ar gyfer sbesimenau o Dde Asia trwy ychwanegu profiadau byw pobl a dealltwriaeth ddiwylliannol o wlad tarddiad y sbesimenau; cysylltu grwpiau cymunedol sy’n hanu o Asia â sbesimenau bioddiwylliannol perthnasol, ac annog deialog a chyfnewid gwybodaeth am fflora De Asia. 

Rydym wedi datblygu partneriaethau newydd gyda sawl aelod o'r gymuned Asiaidd leol trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol. Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth am y modd y defnyddir cynhyrchion o blanhigion wrth goginio ac ar gyfer meddyginiaeth mewn diwylliannau Asiaidd traddodiadol. Yma mae’r blogiwr gwadd, Hasminder Kaur Aulakh, yn rhannu ei phrofiad o ddefnyddio ffenigl, ffenigrig a chardamom gwyrdd gartref.

 

Mae sbeisys a pherlysiau’n hanfodion mewn ceginau ledled y byd a gall eu harogl ddwyn i’r cof ein cartref a’n teulu, a digwyddiadau ac atgofion hapus. Mae lle arbennig yn ein calonnau i’r hadau, y dail, y coesynnau a’r plisg hyn ac maent yn ein hatgoffa o'n hynafiaid, ein mamwlad a'n gwreiddiau, ac yn y corff yn gymorth i ni i wella a lleddfu anhwylderau.

 

Saumph (Ffenigl)

Mae’r ffenigl cyffredin, er enghraifft, neu saumph fel mae fy nheulu Punjabi yn ei alw, yn bresennol ar ffurf hadau sych neu fel powdwr ar aelwydydd De Asiaidd. Mae’n gynhwysyn allweddol yn y gymysgedd o hadau a ddefnyddir i lanhau’r daflod a gaiff ei chynnig gan lawer o fwytai Indiaidd i buro’r anadl. Cedwir y gymysgedd hon mewn cartrefi Indiaidd  yn aml a’i chynnig i breswylwyr a gwesteion ar ôl prydau bwyd. Ond mae'r hedyn hwn yn helpu’r broses dreulio hefyd gan ei fod yn cynnwys llawer o ffeibr. Gall fod yn ddefnyddiol ar ôl pryd mawr o fwyd, am ei bod yn bosibl ei fod yn tawelu leinin y perfedd. Yn aml byddwn yn rhoi hadau saumph mewn dŵr i fabanod sy’n dioddef colig. Mae cnoi saumph yn gysylltiedig â sefydlogi pwysedd gwaed a rheoli curiad y galon hefyd.

 

Gellir ategu manteision saumph yn y system dreulio gyda moli, neu radis gwyn yn Gymraeg, ac mae saumph yn gynhwysyn hanfodol wrth wneud moli wala paronthe. Mae saumph hefyd yn gynhwysyn allweddol mewn cha hefyd, sef te masala Indiaidd, ac mewn meddyginiaeth Ayurveda, trwytho saumph yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’i gymryd.

 

Methi (Ffenigrig)

Mae methi, neu ffenigrig, yn un arall o hanfodion aelwydydd Indiaidd. Mae'r perlysieuyn hwn yn ddefnyddiol fel dail ffres ac fel hadau. Cewch ddail methi ffres mewn cegin Indiaidd yn union fel mae basil ffres mewn cegin Eidalaidd, ac ni fyddai'r pryd Punjabi poblogaidd cyw iâr menyn yn blasu'r un fath heb ysgeintiad o methi ar ei ben. Yn ogystal â gwella blas y bwyd, mae methi yn cynnwys saponinau sy’n gallu helpu i leihau’r colesterol sy’n cael ei amsugno, gan wella iechyd y bwytäwr. Mae methi hefyd yn gadwolyn poblogaidd ar gyfer piclau hefyd.

 

Defnyddir methi fel meddyginiaeth yn y cartref hefyd. Gellir gwneud te ohono gyda mêl a lemwn i helpu i leddfu twymyn. Mae hefyd yn dda at drin problemau croen fel ecsema, llosgiadau a chrawniadau trwy wneud eli methi. Gellir defnyddio eli methi i drin cosi a chen ar y pen hefyd ac fe'i defnyddir mewn sebonau cosmetig at y diben hwn. Mae rhai’n credu bod gan methi briodweddau gwrthasid, ac o’i lyncu gall leddfu dŵr poeth.

 

Elaichi (Cardamom Gwyrdd)

Mae cryn ddadlau am y perlysieuyn hwn, gyda rhai’n cael ei flas yn atgas ac eraill yn barod i fwyta coden amrwd gyfan. Er hynny mae gan elaichi le pwysig yn y gegin yn Ne Asia. Fe'i defnyddir mewn seigiau sawrus fel biryani a bara ac mewn danteithion melys fel cha a  melysion eraill – does dim dwywaith bod lle pwysig i elaichi wrth goginio a phobi yn Ne Asia. Gwelir elaichi yn y gegin ar ffurf codenni, hadau, a/neu bowdwr, mae’n amlbwrpas a gall fod yn wyrdd neu'n ddu. Elaichi gwyrdd yw'r un a ddefnyddir gan amlaf yn Ne Asia, ond defnyddir elaichi ledled y byd yn ei wahanol ffurfiau.

 

Credir bod gan elaichi briodweddau gwrthficrobaidd, ac felly mae wedi’i ddefnyddio

mewn triniaethau llysieuol yn erbyn bacteria niweidiol. Yn debyg iawn i saumph a drafodwyd uchod, mae priodweddau gwrthficrobaidd elaichi yn ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer puro’r geg a chredir y gall cnoi’r codenni helpu i atal bacteria yn y geg sy'n gallu achosi problemau fel heintiau a thyllau mewn dannedd. Credir hefyd ei fod yn bwerus ar gyfer lleddfu llid, ac y gellir ei ddefnyddio i helpu’r system dreulio a helpu i osgoi problemau fel adlif asid a chramp yn y stumog. Mae'r rhinweddau atal llid yn dda ar gyfer trin dolur gwddf hefyd o’i ddefnyddio fel trwyth mewn dŵr neu de poeth.

 

A dyna flas ar ddefnyddiau amrywiol perlysiau a sbeisys yn Ne Asia. Er nad yw'r rhain yn gallu cymryd lle triniaethau gwrthfiotig, brechlynnau neu boenladdwyr, does dim dwywaith eu bod yn gymorth gyda chyflyrau llai difrifol. Mae perlysiau a sbeisys sawrus a blasus seigiau De Asia yn hynod bwysig wrth gadw ein cyrff yn iach a’n stumogau’n llawn, ac maent wedi’u defnyddio o un genhedlaeth i’r llall.

 

 

Digideiddio sbesimenau botanegol o Dde Asia ar gyfer y project Hawliau a Defodau

Nathan Kitto a Heather Pardoe, 21 Chwefror 2023

Dros y 7 mis diwethaf mae curaduron wedi bod yn gweithio ar y project Hawliau a Defodau a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Nod y project yw gweithio gydag aelodau o'r gymuned leol i ail-ddehongli sbesimenau Botaneg o Dde Asia, o’r Casgliad Botaneg Economaidd yn bennaf, er mwyn darparu cyd-destun diwylliannol, deall dulliau traddodiadol o ddefnyddio cynhyrchion o’r planhigion ac er mwyn gwneud y casgliadau yn fwy hygyrch. 

Mae'r Casgliad Botaneg Economaidd yn cynnwys tua 5500 o sbesimenau ac amrywiaeth o wahanol gynhyrchion o blanhigion, megis dail, gwreiddiau, ffibrau a hadau, ac mae gan bob un ohonyn nhw werth arwyddocaol yn economaidd, yn ddiwylliannol neu fel meddyginiaeth. Mae'r project hefyd wedi defnyddio casgliadau o sbesimenau llysieufa, darluniau botanegol, sbesimenau is-blanhigion a Materia Medica.

Mae digideiddio'r sbesimenau yn un dull allweddol o wneud y casgliadau yn fwy hygyrch, gan gynhyrchu delweddau y gellir eu rhannu â staff yr amgueddfa, gydag ymchwilwyr a gyda chymunedau y tu hwnt i'r amgueddfa. Defnyddiwyd sawl techneg i ddigideiddio'r sbesimenau, yn dibynnu ar eu maint a’u ffurf.

Mae'r Cynorthwy-ydd Ymchwil, Nathan Kitto, trwy gyfrwng amrywiol offer a thechnoleg, wedi adeiladu casgliad o dros fil o ddelweddau sy'n cynnwys taflenni llysieufa fasgwlaidd, sbesimenau mewn jariau a blychau, a darluniau hardd o waith llaw. Bydd y delweddau hyn yn cael eu storio yn llyfrgell delweddau ar-lein Gwyddorau Naturiol yr Amgueddfa, ynghyd â data’r sbesimenau, y gellir wedyn eu defnyddio fel adnoddau ymchwil a chyfeirio. Yn y dyfodol bydd y delweddau ar gael yn ehangach trwy gyfrwng Casgliadau Ar-lein yr amgueddfa 

I ddechrau, crëwyd delweddau 2D gan ddefnyddio camera SLR digidol ansawdd uchel. Mae hyn yn gam hanfodol er mwyn cofnodi manylion unigryw’r sbesimen, gan gynnwys y rhif derbyn, enw cyffredin ac enw a tharddiad gwyddonol y rhywogaeth. Fel arfer, mae siart lliw yn cael ei gynnwys yn y ddelwedd er mwyn sicrhau cysondeb o ran lliw, maint a graddfa. Defnyddir offer micrograff hefyd i gymryd lluniau eithriadol agos o sbesimenau. Trwy chwyddo'r sbesimen, gellir gwahaniaethu manylion cain na ellir eu gweld fel arfer, gan roi dimensiwn hollol wahanol.

Yn ddiweddar, prynwyd offer sganio 3D uwch-dechnoleg newydd, diolch i grant gan AHRC. Mae sganiau 3D manwl iawn wedi'u cynhyrchu o rai sbesimenau penodol a oedd yn addas o ran maint a siâp. Mae'r offer yn ein galluogi i gymryd delwedd lawn 3D o sbesimen ac felly gall defnyddwyr terfynol gylchdroi'r sbesimen a’i weld o bob ongl, sy’n rhoi persbectif reit wahanol o gymharu â delwedd dau ddimensiwn. 

Mae'r sganiwr yn gweithio trwy gymryd sawl ffrâm neu ddelwedd o'r gwrthrych o onglau gwahanol er mwyn adeiladu delwedd 3D go iawn. Mae gan un math o sganiwr, sef yr Artec Micro, broses fwy awtomataidd gyda'r offer yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith, drwy gylchdroi a dewis onglau penodol i gymryd delweddau o ansawdd uchel. Ar y llaw arall, mae'r Artec Space Spider yn sganiwr llaw, sy’n cael ei reoli gan y gweithredwr. Mae’n cymryd mwy o ddelweddau wrth i’r gwrthrych gylchdroi. Roedd yn hawdd iawn i'w ddefnyddio ac yn gywir iawn hefyd. Ar ôl cael digon o ddelweddau o wahanol gyfeiriadau, mae’r delweddau’n cael eu cyfuno gan ddefnyddio meddalwedd Artec Studio arbenigol. Gydag ychydig o fireinio ac ail-leoli, mae model 3D yn cael ei greu a'i lanlwytho i Sketchfab. Dyma'r stiwdio ar-lein lle mae modd optimeiddio'r ddelwedd 3D o'r sbesimen gyda goleuadau a golygiadau safleol. Mae'r llyfrgell o ddelweddau Botaneg Economaidd 3D, sydd i'w gweld yma, yn dangos 21 model o sbesimenau, gyda gwybodaeth ategol am y modd y defnyddir y rhywogaethau unigol fel meddyginiaeth ac mewn diwylliannau traddodiadol.

Mae yna fanteision di-ri o gael modelau 3D o sbesimenau amgueddfa; maen nhw’n gwneud y casgliad yn hygyrch i bawb, ac yn addas ar gyfer chwiliadau ar-lein. Mae modd archwilio’r gwrthrychau’n fanwl heb gyffwrdd â’r sbesimen gwreiddiol nac achosi unrhyw ddifrod. Nid yw ased digidol yn dirywio dros amser a gellir ei gopïo a'i storio mewn sawl man a’i ddefnyddio hefyd i greu modelau printiedig 3D. Ar ben hynny, mae gwrthrych 3D digidol yn golygu bod modd rhyngweithio’n wahanol â’r gwrthrych.

Defnyddiwyd y modelau 3D i wneud sbesimenau’r Amgueddfa yn hygyrch i aelodau'r cyhoedd yn ystod gweithdai cymunedol. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn yn sgil y math hwn o ymgysylltu a bu’n fan cychwyn da ar gyfer trafodaethau am gasgliadau’r amgueddfa a'r dulliau niferus o ddefnyddio'r sbesimenau. Ond y cam cyntaf yn unig yw creu'r modelau 3D hyn. Mae'r curaduron ar y project Hawliau a Defodau yn awyddus i weld sut bydd pobl yn parhau i ryngweithio â'r modelau yn y dyfodol ac yn gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol a deniadol i'r cyhoedd a'r amgueddfa ei rannu. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am y gwrthrychau sy'n cael eu dangos yn y blog hwn, cysylltwch â: heather.pardoe@amgueddfacymru.ac.uk.