Enillwyr Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan Penny Dacey, 10 Gorffennaf 2023 Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model o Gaerfyrddin oedd enillwyr Cymru ar gyfer Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni. Gwnaeth yr ysgolion oedd yn cymryd rhan yn y project blannu eu bylbiau ym mis Hydref, cadw cofnodion tywydd rhwng Tachwedd a Mawrth, monitro eu planhigion a chofnodi dyddiadau blodeuo a thaldra'r planhigion, ac uwchlwytho'r holl ddata hwn i wefan Amgueddfa Cymru.Y wobr ar gyfer yr ysgol sy'n ennill yng Nghymru bob blwyddyn yw trip i un o saith amgueddfa Amgueddfa Cymru, gyda bws am ddim a gweithgareddau. Eleni, dewisodd Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Roedd y diwrnod yn cynnwys Llwybr Cynaliadwyedd yn edrych ar rai o adeiladu hanesyddol yr amgueddfa a Helfa Drychfilod Feddylgar, lle buom yn chwilota yn rhai o erddi hardd yr amgueddfa.Roedden ni'n lwcus iawn ar ein Helfa Drychfilod Feddylgar, a oedd yn cynnwys bod yn ymwybodol o'r ardal o'n cwmpas ac edrych yn graff, gwrando'n astud ac arogli'n ddwfn. Gwelsom fursennod emrallt a saffir yn dawnsio uwchben y dŵr yn y pyllau pysgod, a llawer o bysgod bach yn nofio'n chwim o dan y dŵr. Roedd rhai yn ddigon ffodus i gael cip ar neidr y gwair wrth iddo lithro i'r dŵr ac i ffwrdd.Gwelsom wenyn prysur a gloÿnnod byw lliwgar yn peillio planhigion ag aroglau pêr arnynt fel lafant. Gwelsom a chlywsom sioncod y gwair ym mhrysgwydd y gwelyau blodau, yn ogystal â buchod coch cwta, pryfed gleision, morgrug, chwilod, nadroedd cantroed, malwod, chwilod clust, a phryfed lludw. Roedd rhaid i ni blygu i osgoi gwas y neidr a oedd yn bwydo ar bryfed uwch ein pennau, yn plymio tuag atom sawl gwaith.Buom yn gwylio a gwrando wrth i wenyn suo o amgylch twmpath yn y lawnt, gan dyrchu cartrefi newydd yn y pridd. Gwelsom gannoedd o bryfed cop ifanc yn byrstio allan o'u coden ac yn gwasgaru dros wrych.Gwylion ni gychwyr yn nofio'n hamddenol heibio'r bont garreg, a malwod dŵr oddi tani yn bwydo'n araf ar algâu. Gwylion ni'r hwyaid gwyllt cyfarwydd, gwyddau Canada urddasol a'u holl gywion ifanc wrth iddynt barhau â'u diwrnod ar hyd glan y dŵr.Gwnaethom adnabod gwahanol blanhigion a choed a gweld faint ohonom oedd ei angen i amgylchynu’r dderwen 400 oed. Roedden ni gyd wedi ymgolli'n llwyr yno.Mae Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model wedi rhannu'r lluniau canlynol gyda ni i ddarlunio eu diwrnod yn yr amgueddfa. Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Y Ddôl Drefol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Sally Whyman, 1 Gorffennaf 2023 Eleni, ar 1 Gorffennaf nid dim ond dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl y byddwn ni, ond hefyd byddwn yn dathlu deng mlynedd ers sefydlu ein Dôl Drefol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn nodi’r diwrnod gyda digwyddiad Dathlu Natur yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Yn sgil y cyllid cychwynnol gan Gronfa Gymunedol Cemex, mae’r ddôl wedi gallu newid o fod yn ardal o “laswelltir amwynder sy’n brin o rywogaethau” (Arolwg Bioamrywiaeth, AC-MW, 2009) i fod yn ddôl drefol gyda dros 56 o rywogaethau o blanhigion wedi’u cofnodi yn yr arolwg diwethaf (Arolwg Bioamrywiaeth, AC-MW, 2021). Ar y Ddôl Drefol bob haf, bydd planhigion fel Pysen y Ceirw (Lotus corniculatus), Llygad Llo Mawr (Leucanthemum vulgare), Briwydden Felen (Galium verum) a’r Feillionen Goch (Trifolium pratense) yn ychwanegu lliw i’r rhan hon o’r ddinas. Yn ystod y deng mlynedd mae hwyaid gwyllt wedi bod yno yn cysgodi, ac mae neidr wair wedi cael ei gweld yno hefyd. Bydd Tegeirian y Gwenyn (Ophrys apifera) yn blodeuo ddiwedd Mai/dechrau Mehefin bob blwyddyn hefyd i ychwanegu elfen egsotig i’r ddôl. Pan ddaw Gorffennaf, mae’r ddôl yn fwrlwm o bryfed ac adar sy’n chwilio am hadau a phryfed i’w bwyta. Mae gwenyn mêl (Apis mellifera) yn byw gerllaw mewn cychod gwenyn ar do’r Amgueddfa. Mewn byr o dro mae modd iddyn nhw gasglu neithdar a phaill o’r Ddôl Drefol yn ystod misoedd yr haf. Yn ystod cyfnodau clo Covid 19, chafodd y ddôl fawr o sylw gan ymwelwyr na chwaith gan staff a gwirfoddolwyr yn helpu i’w chynnal. Felly, mae rhai o’r rhywogaethau o laswellt wedi gormesu’r planhigion eraill. All blodau bach ddim cystadlu â glaswelltau cryf. Er mai glaswellt cynhenid yw Cynffonwellt y Maes (Alopecurus pratensis), Troed y Ceiliog/Byswellt (Dactylis glomerata) a Rhonwellt (Phleum pratense), nid peth da yw cael gormod ar y ddôl. Mae un gornel o’r ddôl yn fwy llaith na’r tair cornel arall ac mae’r ardal yn gyforiog o Faswellt penwyn (Holcus lanatus). Nid yw hwn yn un o’r rhywogaethau glaswellt talach (fel rheol dim ond hyd at fetr o uchder y bydd Maswellt penwyn yn cyrraedd}, ond gall y rhywogaethau glaswellt eraill fod mor dal â 150cm. Bydd glaswelltau fel arfer yn cael eu peillio gan y gwynt, felly nid oes angen blodau lliwgar i ddenu pryfed i’w peillio. Er mwyn gadael i’r planhigion blodeuol gael rhywfaint o le i dyfu, rydyn ni am hau hadau Cribell Felen (Rhinanthus leiaf) yr hydref hwn. Mae’r planhigyn blynyddol hwn yn barasit ar Laswellt (Poeaceae) sy’n golygu ei fod yn cael maetholion wrth dreiddio trwy wreiddiau’r glaswellt. Efallai y bydd angen hadau Cribell Felen ar lawer o ddolydd yr hydref hwn oherwydd bod y glaswellt wedi ymdopi’n well â’r tywydd poeth na’r planhigion llai sy’n llachar eu lliw. Mae’r hadau’n cael eu hau yn yr hydref oherwydd bod angen iddyn nhw aros yn y pridd drwy’r gaeaf a phrofi’r oerfel er mwyn egino. Mae’r blodau melyn yn ymddangos yn y gwanwyn, ac yna daw y codennau hadau swnllyd. Mae’r Ddôl Drefol wedi bod yn gyfle da i gynyddu bioamrywiaeth ym Mharc Cathays trwy wneud cynefin braf i blanhigion ac anifeiliaid, ond mae wedi bod o gymorth i bobl hefyd. Mae staff a gwirfoddolwyr ynghyd ag ysgolion a grwpiau cymunedol wedi ymweld â’r ddôl i ddysgu am gynefin y ddinas hon. Maen nhw wedi ein helpu ni i hau hadau a phlannu planhigion bach, lladd gwair a thacluso’n gyffredinol. Fe wnaeth un grŵp ddarganfod pedol hyd yn oed! Lwcus i’r person ddaeth o hyd iddi, ond nid i’r ceffyl a’i collodd efallai!
Ceisiadau ar Agor ar Gyfer Prosiect Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2023-24 Penny Dacey, 1 Gorffennaf 2023 Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol.Ymchwiliad gwyddonol wedi'i anelu at oedran 8-11. Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn. Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb cennin Pedr Dinbych, crocws a photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo. Bydd pob ysgol hefyd yn derbyn mesurydd glaw a thermomedr, i gasglu data tywydd yn ddyddiol.Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion syn cymryd rhan yn ennill tystysgrif gwyddonydd gwych.Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan fod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we. Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol. Edrychwch ar ein map i weld os mae eich ysgol wedi cymryd rhan o blaen.Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Fylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2023-2024 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y project! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2024-2025.Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen GaisAnfonwch unrhyw ymholiadau i E-bost SCAN
Gwaith Gwych Cyfeillion y Gwanwyn Penny Dacey, 30 Mehefin 2023 Llongyfarchiadau i'r holl ysgolion a gwblhaodd yr Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion. Mae'r ysgolion a restrir isod wedi ennill tystysgrifau a phensiliau Gwyddonwyr Gwych. Roedd y safon yn eithriadol o uchel eto eleni.Ddiolch i'r holl ysgolion a gyfrannodd at wneud yr ymchwiliad 2022-23 yn llwyddiannus.Enillwyr / Winners:Cymru / Wales: Model Church in Wales Primary SchoolLloegr / England: Roseacre Primary AcademyYr Alban / Scotland: St John Ogilvie Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: St Mary's Primary School (Maguiresbridge)Yn Ail / Runners up:Cymru / Wales: Peterston Super Ely Church in Wales PrimaryLloegr / England: Kidgate Primary AcademyYr Alban / Scotland: Gavinburn Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: Grange Primary School KilkeelClod Uchel / Highly CommendedCymru / Wales: Ysgol Gynradd Gymraeg TonyrefailPil Primary SchoolYGG AberystwythYsgol LlandegfanSt Julian's PrimaryYr Alban / Scotland: Kingcase Primary SchoolDedridge Primary SchoolKincaidston Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: St Patrick's Primary School, EskraCydnabyddiaeth Arbennig / Special Recognition:Cymru / Wales: Forden CiW SchoolYsgol Gymraeg Dewi SantYsgol San SiorSt Joseph's RC Primary School (North Road)Alaw PrimaryYsgol Glan ConwyLloegr / England: St Anne's Catholic Primary SchoolStanford in the Vale Primary SchoolAnchorsholme AcademyFleet Wood Lane Primary SchoolSylvester Primary AcademySt Kentigern's Primary SchoolYr Alban / Scotland: Leslie Primary SchoolLivingston Village Primary SchoolSt Anthony's Primary (Saltcoats)Kirkhill Primary SchoolBlacklands Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: Clonalig Primary SchoolIrvinestown Primary SchoolSacred Heart Primary - CO. DownSt Mary's Primary School (Newry)St Paul's Primary School (Co Fermanagh)Lisbellaw Primary SchoolGwyddonwyr Gwych / Super ScientistsCymru / Wales: Oystermouth Primary SchoolAbernant PrimaryHigh Cross Primary (Newport)Ysgol Capel GarmonAlbert Primary SchoolLlanbedr Church in WalesNPTC Newtown CollegeGlyncoed Primary SchoolSpittal VC SchoolSt Mary's Church in Wales Primary School St Paul’s CiW PrimaryLloegr / England: Cambridge Park AcademyDevonshire Primary AcademyRowley Hall Primary SchoolSt John's CE Primary SchoolSt Bernadette's Catholic Primary SchoolYr Alban / Scotland: Milton Primary SchoolDarvel Primary SchoolMeldrum Primary SchoolOur Lady of Peace PrimaryUnderbank Primary SchoolMaidens Primary SchoolLogan Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: Newtownbutler Primary SchoolSacred Heart Primary School - OmaghGlasswater Primary SchoolCortamlet Primary SchoolNewtownhamilton Primary SchoolTystysgrifau / Certificates:Cymru / Wales: Ysgol Bro Sannan Ysgol BethelBrynford PrimaryMinera Aided Primary SchoolSt Joseph’s Cathedral (Swansea)Ysgol y WernYsgol Cwm BrombilAdamsdown Primary SchoolFranksbridge CP SchoolGors Community SchoolMontgomeryPenrhiwceibr PrimaryRhydri Primary SchoolSt Athan Primary School St. Michael's RC Primary SchoolTrellech Primary School Twyn SchoolYsgol Gymraeg MornantYsgol LlanilarYsgol PontrobertLloegr / England: St Teresa's Catholic Primary SchoolHamstead Junior SchoolHarvills Hawthorn Primary SchoolGrange Primary SchoolMarton Primary Academy and NurseryYr Alban / Scotland: Forehill Primary SchoolGartcosh Primary SchoolNewton Primary SchoolSt Joseph's RC Primary School (Kelty)Whitdale Primary SchoolWindyknowe Primary SchoolGogledd Iwerddon / Northern Ireland: St Patrick's LegamaddyEnniskillen Integrated Primary SchoolSt Mary's Primary School (Killesher)Hardgate Primary SchoolDiolch eto Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd
Ail-adeiladu gwesty’r Vulcan Dafydd Wiliam, 15 Mehefin 2023 Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan Cyfrannu Nawr Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'At present' yn 1914. Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'Proposed' yn 1914. Cofrestrwyd tafarn y Vulcan fel ‘ale house’ am y tro cyntaf ym 1853. Erbyn iddi gael ei datgymalu gan yr Amgueddfa yn 2012 gwelwyd sawl cyfnod o addasiadau. Roedd gwaith addasu 1901 ac 1914 mor sylweddol fel bod rhaid ceisio am ganiatâd cynllunio drwy Gyngor y Sir. Heddiw, mae’r cynlluniau yn Archifdy Morgannwg.Mae’r cais cynllunio o 1914 yn cynnwys dau ddarlun (does dim darlun o’r ffasâd ar y cais o 1901) – labelwyd un darlun yn At present, a labelwyd y llall yn Proposed. Does dim esboniad ysgrifenedig wedi goroesi i gyd-fynd â’r darluniau. Serch hynny, wrth edrych yn fanwl mae modd bwrw mwy o olau ar y newidiadau arfaethedig. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg yw’r cynnydd ar y llawr cyntaf o ddwy ffenest i bedair, a chodi pileri newydd o frics coch naill ochr. Gwaredwyd y parapet oedd o flaen y to – sydd i’w weld fel cyfres o linellau llorweddol uwchben y ffenestri, ac fe addaswyd y simneiau a gosodwyd to newydd o lechi. Bu un newid arall, sydd ddim yn amlwg yn y darlun, a hwn oedd y newid mwyaf yn hanes y Vulcan – cynyddwyd uchder yr adeilad yn sylweddol. Mae’r darlun gwreiddiol yn dangos y dafarn yn rhannu to gyda’i gymdogion, lle mae’r darlun arfaethedig yn dangos adeilad cryn dipyn yn dalach na’r cymdogion.Doedd dim bwriad i newid strwythur y ffasâd llawr gwaelod – dau ddrws, a dwy ffenest wedi eu rhannu yn ddwy a ffenestri linter (fanlights) uwch eu pen. Ond, wrth edrych yn fanwl mae modd gweld bod nifer o wahaniaethau allweddol, a digon i awgrymu fod y ddau ffasâd yn rhai gwahanol. Yn y darlun gwreiddiol mae dau banel hirsgwar o dan bob ffenest, ond yn y darlun arfaethedig dim ond un sydd. Mae’r nifer o baneli drws yn wahanol hefyd. Yn y darlun gwreiddiol, naill ochr i’r ffenestri mae’r pileri yn rhai rhychiog ac yn gorffen cyn cyrraedd y ffris. Dyw’r pileri ddim yn rhychiog yn y darlun arfaethedig ac maent yn cario ymlaen mewn i’r ffris nes cyrraedd y cornis uwch ei ben. Mae’r darlun arfaethedig hefyd yn dangos tri ffenest linter uwch ben pob gwydr ffenest, lle mae saith yn y darlun gwreiddiol. Dyw’r terfyniad addurniadol ddim i’w weld yn y darlun arfaethedig chwaith. Dim ond yn y darlun arfaethedig mae’r gwahaniaeth mwyaf oll i’w weld, sef yr arysgrif newydd THE VULCAN HOTEL, WINES & SPIRITS ac ALES & STOUTS. Er nad yw’n glir yn y cynlluniau, rydym yn sicr fod y darlun gwreiddiol yn dangos ffasâd llawr gwaelod o bren – tebyg iawn i flaen siop Fictoraidd draddodiadol, a newidiwyd hwn yn 1914 am un tebyg o deils gwydrog a arhosodd yn eu lle nes tynnu’r adeilad yn 2012. Y teilsErbyn i'r Amgueddfa ddatgymalu'r Vulcan yn 2012, roedd teils lliwgar brown a gwyrdd y ffasâd wedi bod y neu lle am 97 mlynedd, ac o ganlyniad roedd nifer fawr mor wael eu cyflwyr fel na ellid eu ailddefnyddio. Ar ben hyn, gwnaeth nifer fawr wrthod wahanu oddi wrth y sment a ddefnyddiwyd i'w gludo yn eu lle. Gwnaeth y teils a gariodd enw Y Vulcan oroesi yn well oherwydd eu bod yn uwch i fyny'r adeilad, a byddent yn cael eu cadw i'w harddangos yn y dyfodol. Cynhyrchwyd y teils gan Craven Dunnill, o Ironbridge, Swydd Amwythig – yn ffodus, roedd eu henw ar gefn y teils. Gan fod y cwmni'n dal i fynd, fe benderfynon ni gomisiynu set newydd sbon o deils ar gyfer y Vulcan – a chafodd y rhain eu creu o'r un mowldiau pren a ddefnyddiwyd yn wreiddiol nol yn 1915.Y FfenestriCafodd ffenestri plwm Y Vulcan eu gosod yn eu lle ar yr un pryd â'r teils – fel rhan o'r gwaith adnewyddu mawr a gwblhawyd yn 1915. Wrth edrych yn agos, maen nhw i'w gweld mewn llun o’r Vulcan a dynnwyd yn 1919. Mae erthygl a gyhoeddwyd yn y Western Mail ar 16 Rhagfyr 1914 yn nodi:‘Broke Public House WindowPaul Begley (46), a cripple, was fined 10s and costs at Cardiff on Tuesday…for disorderly conduct in Adam Street and for wilfully breaking two panes of plate glass in the bar window of The Vulcan Inn. Although the damage amounted to £3, the landlord…made no claim.’Cyn adnewyddu’r Vulcan, roedd y ffasâd llawr gwaelod yn cynnwys dwy ffenestr fawr o ddau rhan. Os tybiwn fod yr erthygl hon yn ymwneud ag un o'r ddwy ffenest fawr, yna efallai na wnaeth y Landlord wneud hawliad gan ei fod yn gwybod bod y ffenestri yn mynd I gael eu adnwyddu o fewn yr wythnosau neu'r misoedd nesaf. Efallai bod y newid o wydr plât i wydr plwm (o ddarnau bach o wydr) wedi bod yn ymgais i leihau effaith difrod o'r fath yn y dyfodol. Mae yw weld bod fframiau'r ffenestri wedi goroesi mewn cyflwr gwell gan fod un wedi cael ei ail-ddefnyddio fel ffenestr y bar cefn – yr hen agoriad yn cael ei ehangu i ffitio. Pan brynodd Bragdy Brains y dafarn yn y 1950au, fe osodon eu logo Draig Goch mewn rowndel yng nghanol pob un o'r ffenestri. Erbyn 2012, dim ond un o'r rhain oedd ar ôl. Gan y bydd y Vulcan yn cael ei ddehongli fel yr edrychodd yn 1915, dydyn’t methu cynnwys logo Brains gan nad oeddent yn berchen ar y dafarn bryd hynny. Ar y pryd, roedd yn eiddo i William Walter Nell ac fe'i gyflenwyd gan ei fragdy Eagle Brewery, yn Sgwâr Sant Ioan, Yr Aes, yng nghanol dinas Caerdydd. Wrth i'w fonogram W.W.N. oroesi ar adeilad ym Merthyr Tudful, llwyddon yw efelychu i gymryd lle'r Ddraig Goch. Gwnaed y gwaith o adnewyddu’r ffenestri plwm gan arbenigwyr o Goleg Celf Abertawe, yn y Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Gwnaethant ddod o hyd i'r gwydr cywir i gymryd lle unrhyw wydr toriedig, fe wnaethant lanhau pob darn unigol o wydr cyn eu rhoi yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, ac ail-blymio y ffenestri yn barod ar gyfer y 97 mlynedd nesaf.Cefnogwch project Gwesty'r VulcanCyfrannu Nawr