Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Taflu
Mae Mauricio Dias a Walter Riedweg wedi bod yn cydweithio ers 1993 gan gynnwys y gwaith fideo un sianel, Taflu. Dyma ddarlun o ‘wrthryfel dyddiol y dyn bach’ a grëwyd drwy wahodd trigolion Helsinki i daflu pob math o wrthrychau at haen o wydr.
Lluniau llonydd o waith celf fideo yw’r rhain. Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.