Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Telegram
Telegram a yrrwyd gan David Ladd o Winnipeg yn holi am dynged ei frawd, Owen Ladd, yn dilyn suddo’r RMS Lusitania. Derbyniwyd y telegram yn Swyddfa Bost Clunderwen am 10:45 ar 8 Mai 1915.
Bu farw Owen Ladd pan gafodd yr RMS Lusitania ei tharo gan dorpido Almaenig ar 7 Mai 1915. Ganwyd ef ym 1882, yn fab i William a Phoebe Ladd, The Mount, Eglwyswrw, gogledd Sir Benfro. Ym 1911 gadawodd Gymru i ymuno â’i frawd, David, oedd yn fasnachwr coed yn Winnipeg, Canada. Ym mis Mai 1915 roedd yn dychwelyd i Gymru er mwyn ymweld â’i deulu. Roedd hefyd yn ystyried ymuno â’r fyddin.
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
MS 2506/70
Derbyniad
Collected Officially
Mesuriadau
Lleoliad
In store
Categorïau
First World WarNid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.