Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr gan Owen Ladd o Winnipeg yn hysbysu Mr Francis y byddai yn hwylio ar yr RMS Lusitania o Efrog Newydd ar 1 Mai 1915.
'The reason of my delay in replying to your enquiry was that I've been contemplating paying a visit to the old land when I would call & see you & settle all matters. Now I've definitly [sic] decided & shall be sailing by the Lusitania from New York May 1st. therefore I hope to call & see about the end of May. of course if we encounter any German torpedoes you'll have to claim on the German Emperor.'
Bu farw Owen Ladd pan gafodd yr RMS Lusitania ei tharo gan dorpido Almaenig ar 7 Mai 1915. Ganwyd ef ym 1882, yn fab i William a Phoebe Ladd, The Mount, Eglwyswrw, gogledd Sir Benfro. Ym 1911 gadawodd Gymru i ymuno â’i frawd, David, oedd yn fasnachwr coed yn Winnipeg, Canada. Ym mis Mai 1915 roedd yn dychwelyd i Gymru er mwyn ymweld â’i deulu. Roedd hefyd yn ystyried ymuno â’r fyddin.