Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Jug
Wedi’i phaentio ar un ochr y jwg hardd hwn mae golygfa brydferth o Grochendy Ferrybridge, gyda Phlas Ferrybridge, rhes o dai gweithwyr ac odynnau’r crochendy ei hun a adeiladwyd ym 1793. Yn y cefndir gwelwn bontydd sarn Brotherton yn croesi’r corsydd. Ar yr ochr arall mae golygfa o’r Hen Felin Fflint, a adeiladwyd ym 1792, gyda chwch camlas a berfa llawn glo. Ar y blaen mae’r monogram 'CS'. Dengys ymchwil diweddar bod Ernest Morton Nance, cyn berchennog y jwg, wedi camgymryd y darluniau am olygfeydd o Grochendy Cambrian, Abertawe.