Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Ogof Colomennod, celc y Gogarth, Conwy
Celc o’r Oes Efydd Ddiweddar (1000-800 CC) yn cynnwys dau addurn gwallt wedi’u gwneud o aur, o’r enw ‘modrwy gudyn’, a ddarganfuwyd gyda dau erfyn efydd: palstaf a mynawyd socedog.
Darganfuwyd y celc ger Ogof Colomennod ar ochr ogleddol Penygogarth ger Llandudno. Soniwyd gyntaf am y darganfyddiad mewn papur newydd lleol ar 20 Mai 1898. Dywedwyd mai dau berson ifanc a wnaeth y darganfyddiad, mewn malurion cerrig y tu ôl i garreg fawr, rydd ger yr ogof. Er ei bod yn bosibl mai rhywun o statws uchel oedd yn berchen ar yr arteffactau, ni welwyd tystiolaeth ei fod yn fan claddu. Efallai mai rhodd i dduwiau a duwiesau’r cyfnod oedd y celc.
Ar lannau’r gogledd y darganfuwyd y rhan fwyaf o’r modrwyau cudyn y gwyddom amdanynt yng Nghymru. Gwyddom am enghreifftiau eraill mewn celciau aur o’r Gaerwen, Ynys Môn a Chymuned yr Orsedd, Wrecsam. Gwyddom am fodrwyau cudyn tebyg yn Iwerddon a Phrydain, sy’n awgrymu cysylltiadau a chyfnewid nwyddau dros Fôr Iwerddon yn y cyfnod. Efallai mai un peth a ddylanwadodd ar y penderfyniad i gladdu’r celc yma oedd bod mwynglawdd copr Penygogarth o’r Oes Efydd gerllaw, yn creu cyfoeth ac yn symud metelau.