Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Celc posibl / darganfyddiad cysylltiedig, Canolbarth Cymru (union fan darganfod yn anhysbys)
Darganfuwyd torch aur fawr â chantelau tro gyda phalstaf efydd mewn seler yn Aberystwyth a’u cynnig ar werth ar ocsiwn yn 1966. Cawsant eu prynu ar gyfer y casgliad cenedlaethol bryd hynny. Credir bod yr eitemau wedi’u prynu oddi wrth rywun a ddaeth o hyd iddynt wrth gladdu anifeiliaid marw ar fferm yng nghanolbarth Cymru. Gan fod y sawl a’u darganfu eisoes wedi marw erbyn i’r darganfyddiad ddod i’r amlwg, nid oedd modd gwybod yn iawn lle’r oedd y man darganfod nac a oeddent mewn cydgysylltiad.
Mae’r palstaf efydd yn un Trosiannol â llafn cul. Mae iddo ddwy ddolen. Mae’r dorch a’r palstaf yn dyddio o’r Oes Efydd Ganol (1300-1150 CC)