Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Celc Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych
Celc o'r Oes Efydd Ddiweddar (1000-800 CC) yw hwn. Mae'n cynnwys dwy freichled aur, ingot bys aur, dau ddernyn o ddolenni aur a bwyell soced ffasedog o efydd. Yn rhyfedd iawn, darganfuwyd yr eitemau aur wedi'u claddu'n ofalus y tu mewn i soced y fwyell ac roedd y breichledau wedi'u torchi'n dynn yn droellau bach. Gwelwyd darnau bach o galena neu fwyn plwm hefyd yn soced y fwyell, ond cafodd y rhain eu taflu gan y darganfyddwr.
Gwnaed y darganfyddiad ym mis Gorffennaf 1982, pan ddaeth myfyriwr daeareg o hyd i'r celc yn gorwedd yn agored ar silff graig naturiol oedd yn rhan o frigiad calchfaen o'r enw Craig-yr-Wolf. Er chwilio yn y man darganfod, ni wnaed darganfyddiadau eraill. Cyhoeddwyd bod yr eitemau aur yn drysor mewn Cwest Hapdrysor a gynhaliwyd yn Rhuthun ym mis Medi 1982 ac fe'u prynwyd fel trysor. Sicrhawyd y fwyell efydd trwy bryniant preifat.
Yng Nghymru, darganfuwyd breichledau aur wedi'u gosod yn ofalus mewn bwyeill efydd socedog ar dri achlysur. Y ddau arall oedd celc Cymuned yr Orsedd, Wrecsam a chelc Llanfihangel-ar-Elái, Caerdydd. Gwyddom am enghreifftiau eraill o Iwerddon a Chernyw, sy'n awgrymu bod nifer o gelciau wedi'u claddu yn y ffordd arbennig hon yn yr ardaloedd gorllewinol hyn a oedd yn cynhyrchu metelau.