Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Celc ‘Tiers Cross’, Sir Benfro
Dyma gelc o’r Oes Efydd Ganol (1300-1150 CC) sy’n cynnwys torch bar aur â chantelau tro a dwy dorch bar aur. Roedd y tair torch wedi'u torchi, eu troelli fel rhaff a'u siapio cyn eu claddu, er mwyn ffitio'n well wrth gael eu claddu yn wreiddiol, mewn pwll a gloddiwyd yn y ddaear, mae'n debyg.
Gwnaed y darganfyddiad wrth chwilio â datgelydd metel ond, gwaetha'r modd, pan aeth archaeolegwyr amgueddfa i archwilio ymhellach, canfuwyd nad oedd yr adroddiad am y darganfyddiad a gafwyd gan y darganfyddwyr yn gywir. Felly, nid oedd modd i'r union fan darganfod yn y rhan hon o Sir Benfro gael ei nodi'n iawn na'i gadarnhau. Cyhoeddwyd bod y celc yn drysor mewn Cwest Hapdrysor a gynhaliwyd yn Hwlffordd ym mis Tachwedd 1991, ac yna cafodd ei brynu ar gyfer y casgliad cenedlaethol.
Mae'r celc yn ychwanegu'n sylweddol at amrywiaeth a chrynodiad y torchau aur y gwyddom amdanynt yng Nghymru, gan ei gwneud yn un o brif leoliadau Ewrop yr Iwerydd ar gyfer darganfod torchau aur wedi'u claddu. Mae hyn yn awgrymu bod mwyn aur yn cael ei gloddio o afonydd yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd Ganol. Mae'n arwydd o gymunedau cyfoethog ar y pryd, lle roedd pobl o statws uchel yn arddangos eu safle trwy wisgo aur.