Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Ymarfer ar Long

BRANGWYN, Sir Frank William (Brangwyn was born in Bruges to an Anglo-Welsh father and Welsh mother from Brecon. The family moved back to Britain and by the age of fifteen Brangwyn was studying under designer and socialist William Morris. As he became successful as a painter, etcher and lithographer, Brangwyn began to travel widely across the world. He had an international reputation at the time of the First World War and was a member of the Senefelder Club, which promoted the medium of lithography.)

Mae lluniau Brangwyn yn adlewyrchu ei ddiddordeb yn y môr. Yn llawer o'i brintiau, mae wedi manteisio ar nodweddon lithograffi er mwyn creu printiau tebyg i frasluniau a darluniau. Cafodd Brangwyn ei ysgwyd i'r byw gan ddifodiant a dinistr rhyfel, yn enwedig yn Fflandrys, lle cafodd ei eni. Er na chafodd erioed ei benodi'n artist rhyfel swyddogol, cynhyrchodd lu o lithograffau ar gyfer achosion da.

Ganwyd Brangwyn yn Brugge, Fflandrys. Roedd ei dad o dras Eingl-Gymreig a'i fam yn hanu o Aberhonddu. Dychwelodd y teulu i fyw ym Mhrydain, ac erbyn iddo droi'n bymtheg, roedd Brangwyn yn astudio dan adain William Morris, y cynllunydd a'r sosialydd. Wrth iddo ennill ei blwyf fel paentiwr, ysgythrwr a lithograffydd, dechreuodd Brangwyn grwydro'r byd. Roedd eisoes yn adnabyddus dramor pan dderbyniodd y comisiwn hwn, ac yn aelod o Glwb Senefelder a hyrwyddai lithograffi fel cyfrwng.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 13172

Creu/Cynhyrchu

BRANGWYN, Sir Frank William
Dyddiad: 1917

Derbyniad

Gift, 19/2/1919
Given by H. M. Ministry of Information

Mesuriadau

(): h(cm) sheet size:54.8
(): h(cm)
(): w(cm) sheet size:38.1
(): w(cm)
(): h(cm) image size:46.8
(): h(cm)
(): w(cm) image size:36.1
(): w(cm)

Techneg

lithograph on paper
lithograph
Planographic printing
prints
Fine Art - works on paper

Deunydd

ink
Paper

Lleoliad

In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.