Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Middle Bronze Age gold ribbon torc

Dyma ruban main o aur sydd wedi’i droelli’n llac, gan feinhau tua’r terfynellau bachog cul ar y ddau ben. Credir mai o gwmpas y gwddf y byddai’r addurn hwn yn cael ei wisgo. Mae toriad rhannol mewn un man ar hyd y rhuban. Rhaid nodi bod y dorch wedi’i hanffurfio a’i gwasgu’n belen gyda dwy dorch arall pan ganfuwyd hi. Felly dehongliad o’i ffurf a’i dimensiynau gwreiddiol yw’r dorch yn ei chyflwr presennol.

Torch ruban aur, 1400-1300 CC. Arwydd o statws a chyfoeth oedd y torchau rhuban. Cawsant eu creu trwy droelli stribedi tenau o aur. Roedd y bachau bob pen yn cadw’r torchau yn eu lle. Pan gafwyd hyd i’r gelc hwn, roedd y torchau wedi cael eu gwasgu’n un bêl aur. Mae archaeolegwyr wedi gweld arfer tebyg mewn llefydd eraill ym Mhrydain hefyd. Mae’n awgrymu bod difetha’r gwrthrychau yn weithred arwyddocaol i’r bobl oedd yn eu claddu.

Project Title: Gold in Britain’s auriferous regions, 2450-800 BC: towards a coherent Research Framework and Strategy. Status: Arts & Humanities Research Council (AHRC) Network Grant funded project (2018-2019)

WA_SC 18.1

Pwnc

Archeoleg a Nwmismateg

Rhif yr Eitem

55.543/2

Gwybodaeth am y darganfyddiad

Enw'r Safle: Heyope (Cwmjenkin Farm), Powys

Dull Casglu: surface find
Dyddiad: 1955 / Jun

Nodiadau: Hoard. The hoard was found on 10th June 1955 in a very steep field approximately 640 south south east of Cwmjenkin Farm by the occupant of the farm while ploughing. The three torcs were found crushed into a ball and were disentangled and arranged in their present form post-recovery. The findspot is well below the top of the hill and it is possible they were deposited higher, but have since moved due to erosion. The report of discovery indicates that the ploughing reached no deeper than nine inches.

Derbyniad

Treasure trove, 3/12/1955

Mesuriadau

internal diameter / mm:197.0
diameter / mm
external diameter / mm:216.0
diameter / mm
width / mm:8.3-8.6 (of strip)
weight / g:121.3
thickness / mm:0.6
diameter / mm:4.0 (of terminals)

Deunydd

gold

Lleoliad

St Fagans Wales Is gallery : Gold

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.