Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

The Bal maidens

Grŵp o fenywod ifanc – morynion bal – yn cerdded i’r gwaith ar hyd lôn wledig. Roedd morynion bal yn gweithio ym mwynfeydd Cernyw a Gorllewin Dyfnaint – bal yw’r cair Cernyweg am fwynglawdd, a morwyn yw merch ifanc neu ddibriod. Roedd morynion bal yn gweithio ar yr wyneb, yn prosesu metelau fel tun, copr a phlwm. Erbyn i Emily Mary Osborn baentio’r olygfa hon yn y 1870au roedd niferoedd y morynion bal yn gostwng, yn rhannol oherwydd syniadau Fictoriadd am rôl y fenyw a bod gwaith corfforol caled yn anaddas. Dangoswyd y paentiad hwn yn Athrofa Celf Gain Glasgow ym 1873, a cafodd ei ddisgrifio gan un o adolygwyr yr Art Journal yn ‘gyfosodiad llawn ysbryd’ gyda phwnc ‘tu hwnt i’r cyffredin’. Fel menyw, cyfyng oedd hawl Emily Mary Osborn i hyfforddiant celfyddydol ac roedd ei henw ymhlith y rhai a gyflwynodd ddeiseb i’r Academi Frenhinol ym 1859, i’w hannog i ganiatáu menywod. Roedd yn weithgar gydag ymgyrchoedd i ennill y bleidlais i fenywod ac yn cydweithio’n agos â’r ymgyrchwraig a’r artist Barbara Bodichon. Mae cyfran helaeth o’i gwaith yn dangos bywyd a phroblemau menywod cymdeithas Oes Fictoria.

WA_SC4.1

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 5012

Creu/Cynhyrchu

OSBORN, Emily Mary
Dyddiad:

Derbyniad

Gift
Given by Cardiff Exhibition Committee, 1881

Mesuriadau

Uchder (cm): 71.5
Lled (cm): 91.5
h(cm) frame:100.5
h(cm)
w(cm) frame:121
w(cm)
d(cm) frame:8
d(cm)

Techneg

oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil

Lleoliad

In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.