Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Tirlun gyda Chastell Ubbergen

CUYP, Aelbert (1620-1691)

Mae heusor a'i wartheg yn oedi wrth lannau'r afon Rhein, wrth i fonheddwr farchogaeth tuag ato'n araf. Yn y pellter, mae amlinell aneglur Castell Ubbergen. Roedd y castell yn y cefndir, a ddymchwelwyd ym 1712, ger Nijmegen ar Afon Rhein. Roedd y castell yn symbol o wrthryfel yr Iseldirwyr yn erbyn byddin Sbaen ac yn ennyn cryn falchder cenedlaetholgar. Cafodd Cuyp ei hyforddi yn Dordrecht ac roedd yn weithgar yno. Roedd yn un o brif beintwyr tirluniau'r Iseldiroedd yn yr 17eg ganrif. Er nad aeth Cuyp erioed i'r Eidal ei hun, mae goleuni euraidd yr Eidal yn tywynnu o'i dirluniau, sy'n debyg i'r hyn a welai yng ngweithiau ei gyfoedion oedd wedi teithio yno. Oherwydd ei dirweddau bryniog mewn golau euraid, gelwid ef yn 'Claude yr Iseldiroedd'. Mae'n debyg fod y darlun hwn yn perthyn i ganol y 1650au ac yr oedd eisoes ym Mhrydain erbyn y 18fed ganrif.

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 23

Creu/Cynhyrchu

CUYP, Aelbert
Dyddiad:

Derbyniad

Purchase, 1963

Mesuriadau

Uchder (cm): 42.5
Lled (cm): 51.3
Uchder (in): 17
Lled (in): 20

Techneg

oil on board
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil
board

Lleoliad

Gallery 02

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.