Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Tywysoges Ddiweddar yn personoli Heddwch yn coroni Gogoniant Lloegr yn adlewyrchu ar Ewrop

DOWNMAN, John (1750-1824 John Downman’s delicate oval portraits made him one of the most popular portrait painters of the late eighteenth century. Born in Ruabon, near Wrexham, he moved to London and spent most of his working life in England, though he often painted Welsh sitters. Gwnaeth portreadau hirgrwn a chain John Downman yr artist yn un o beintwyr portreadau mwyaf poblogaidd diwedd y ddeunawfed ganrif. Fe’i ganwyd yn Rhiwabon, ger Wrecsam, cyn symud i Lundain a threulio’r rhan fwyaf o’i fywyd cynhyrchiol yn Lloegr, er iddo beintio nifer o bortreadau o Gymry.)

Ganed Downman yn Rhiwabon a bu'n astudio yn Llundain gyda Benjamin West. Arbenigai mewn portreadau cain a golygfeydd theatraidd. Yr alegori hon, hyd y gwyddom, yw ei waith olaf. Roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn (1772-1840), y 5ed barwnig, a bu'n crogi yn Wynnstay. Fe'i gwelwyd yn Academi Frenhinol 1819 gyda'r gerdd isod:

Hail, lovely peace! In glory spread thy arms...To crown blest Britain in triumphant charms. Europe's encircled Sov'reigns join thy ways...

Y 'ddiweddar Dywysoges' yw Charlotte Augusta (1796-1817), merch Siôr IV, Tywysog Cymru. Bu farw ar enedigaeth plentyn ac ystyriwyd hynny'n drychineb genedlaethol. Darlunir hi ar ffurf Heddwch adeiniog a Lloegr ar ei gorsedd. Mae'r troffi arfau'n cyfeirio at y ffaith fod Napoleon wedi ei drechu ac mae'r pwto a'r goron yn gyfeiriad at 'Europe's encircled Sov'reigns' a adferwyd i'r orsedd pan orchfygwyd ef. Symbolau o Loegr yw'r llew a'r ungorn, y gardas a chleddyf y wladwriaeth, ac mae'r pwti gyda cholomen a chorn llawnder yn gweini ar Heddwch.

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 3591

Creu/Cynhyrchu

DOWNMAN, John
Dyddiad: 1819

Derbyniad

Purchase, 9/7/1997

Mesuriadau

Techneg

oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil
canvas

Lleoliad

In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.