Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Ffilmio 'L'important c'est d'aimer' gan Andrzej Zulawski

Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Tynnwyd y ffotograff yma ar set L'important c'est d'aimer’ gan Andrzej Zulawski ym 1974. Dyma oedd fy set ffilm gyntaf. Dim ond blwyddyn o ffotograffiaeth broffesiynol oedd gen, ac roeddwn i newydd orffen yn y brifysgol. Gyda Kinski, roedd hefyd Romy Schneider, Jacques Dutronc, Fabio Testi, a mwy. Roedd yr holl ffigurau enwog hyn yn gwneud i mi deimlo'n eithaf nerfus fel dechreuwr, ond roeddwn i wedi fy swyno, gan wylio yn dawel yr hyn roedd yn datblygu o'm blaen. Fe wnes i ddarganfod cymhlethdodau anhygoel oedd yn bodoli rhwng naws y ffilm a seicoleg fewnol yr actorion yn ystod y saethu. Yn y diwedd, doeddwn i ddim yn gallu gwahaniaethu'n emosiynol beth oedd yn digwydd yn y ffilm ffuglennol, a'r hyn oedd yn digwydd gyda'r actorion go iawn. Mae Andrzej Zulawski bob amser wedi rhagori wrth drin y math hwn o sefyllfa. Roedd y criw ffilm a'r cynhyrchwyr wedi rhoi rhwydd hynt i mi bron iawn. Cefais fy ngadael ar fy mhen fy hun gyda'r actorion. Roedd Kinski wedi fy swyno fwyaf — ei hwyliau sydyn yn pendilio, o fod yn dawel iawn i fod yn anhygoel o dreisgar. Roedd yn brwydro gyda'i gythreuliaid ei hun ac yn chwarae gyda'r frwydr. Gyda fi, roedd e'n ofalgar ac yn garedig. Wrth i’r criw osod y goleuadau, dechreuodd Kinski fyrfyfyrio'r foment hon, dechreuodd chwarae. Roedd yn fy mhoeni braidd, yr hwyliau y byddai'n eu byw ychydig eiliadau ar ôl i'r ffrâm hon gael ei gwneud. Ar ôl i'r ffilmio ddod i ben, cododd a cherdded i ffwrdd yn araf tuag at ffenestr yr ystafell wely. Roedd yn crio. Fe wnaethon ni aros yn dawel." — Jean Gaumy

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 55436

Creu/Cynhyrchu

GAUMY Jean
Dyddiad: 1974 –

Derbyniad

Gift, 25/4/2017
Donated by David Hurn, 2017

Mesuriadau

h(cm) image size:9.4
h(cm)
w(cm) image size:14
w(cm)
h(cm) paper size:15.2
w(cm) paper size:15.1

Techneg

Digital Pigment Print

Deunydd

Paper

Lleoliad

In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.