Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
William Herbert, 1st Earl of Pembroke
Wedi ei eni ym 1507, roedd yr eisteddwr yn ffigwr gwleidyddol a milwrol pwysig yn ystod teyrnasiad Harri VIII, Edward VI a Mari I. Roedd yn angerddol o fach o'i linach Gymreig a dywedir iddo fod yn hapusach yn siarad Cymraeg na Saesneg. Roedd yn dirfeddiannwr o bwys yn ne Cymru ac yn ne-orllewin Lloegr. Ei wraig gyntaf oedd Ann Parr, chwaer Brenhines olaf Harri VIII. Trwy ei dylanwad hi y daeth ef i rym yn y Llys. Yr oedd yn un o ddeuddeg o gyfrin gynghorwyr Edward VI a chadwodd ei oruchafiaeth wleidyddol ar esgyniad Mari I ym 1554 drwy gael ei apwyntio'n Gapten Gadfridog y lluoedd Prydeinig yn Ffrainc. Bu farw ym 1570. Mae'r llun hwn, a baentiwyd yn y 1560au cynnar yn dangos yr Iarll yn gwisgo arfwisg Eidalaidd, sy'n cael ei adnabod fel 'demi-lance' cafalri canolig.