Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Rhyddid y Moroedd
Gwelwn griw o forwyr ar drugaredd y tonnau yn brwydro'n arwrol yn erbyn y môr-anghenfil, symbol o'r frwydr fawr yn erbyn y gelyn.
Ganwyd Brangwyn yn Brugge, Fflandrys, cyn dychwelyd i Brydain gyda'i deulu pan yn ifanc iawn. Er taw prin oedd ei addysg gelf, cafodd yrfa lwyddiannus fel paentiwr darluniau olew a dyfrlliw gan droi ei law hefyd at brintio, pensaernïaeth a dylunio.
Er nad oedd yn artist rhyfel swyddogol, cynhyrchodd dros 80 o bosteri a chynlluniau ar gyfer Stampiau Bond Rhyfel. Roedd yn aelod o Glwb Senefelder, oedd yn hyrwyddo lithograffi. Byddai'n printio ei luniau ei hun, ac yn gweithio'n uniongyrchol ar y garreg lithograffi yn hytrach na defnyddio papur trosglwyddo. Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals, 'gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.