Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Teyrnasiad Cyfiawnder
Yma gwelwn Cyfiawnder fel menyw ifanc yn dal clorian gerbron tyrfa o bobloedd y byd. Ym mlaen y dorf mae barnwr Prydeinig yn ei lifrai coch. Gwelwn ddau faban dedwydd yn chwarae wrth droed Cyfiawnder, yn arwydd o obaith i'r dyfodol.
Ganwyd y paentiwr, yr ysgythrwr a'r darlunydd Edmund Sullivan yn Llundain, ac astudiodd gelf dan law ei dad yn Hastings. Ymunodd â staff wythnosolyn y 'Graphic', cyn gweithio'n ddiweddarach fel darlunydd i gylchgronau'r 'Daily Graphic' a 'Pall Mall Budget'. Cafodd yrfa hynod lwyddiannus wedi hyn yn darlunio llyfrau.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.