Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
William Williams, 'Will Penmorfa' (1759-1828)
William Williams (1759-1828), dyn dall a adnabyddid fel 'Wil Penmorfa' oedd telynor teulu Gwynne yn Nhre-gib ger Llandeilo. Roedd llawer o deuluoedd Cymreig yn cadw telynorion. Roedd yr un mwyaf adnabyddus, John Parry (1710-1782), yn cael ei gyflogi gan Syr Watkin Williams Wynn fel organydd a thelynor yn Wynnstay ar gost o £110 y flwyddyn. Mae Williams yn canu'r delyn mewn dull nodweddiadol Gymreig ar yr ysgwydd chwith. Nid yw dyluniad yr offeryn yn realistig, yn arbennig o ran system y tannau. Efallai mai'r arlunydd a arwyddodd y darlun yw'r un J Chapman a fu'n arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1819 a 1836.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.