Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Fenis, Y Cyfnos
Mae'r gwaith yma'n ymateb i olygfa o Fenis ar amser penodol o'r diwrnod – y cyfnos. Mae'n un o gyfres o bedwar llun sy'n dangos yr olygfa ar wahanol gyfnodau o'r dydd – bore, prynhawn, cyfnos a nos. Mae amrywiaeth mawr rhwng lliw a naws pob gwaith. Mae ansawdd ddigymell y gwaith, sy'n edrych fel petai wedi'i baentio, yn ganlyniad proses brintio gymhleth oedd yn gofyn am gydweithio agos rhwng yr artist â'r printiwr arbenigol, Jack Shirreff. Fe'i printiwyd gan ddefnyddio pum plât ar un ddalen ar bymtheg o bapur, neu 'ddarnau'. Mae Hodgkin yn hoff o ddefnyddio ysgythru, acwatint a charborwndwm (silicon carbid) yn ystod y broses brintio. Mae pob print wedi'i orffen drwy baentio â llaw sy'n rhoi'r gwead a'r donyddiaeth ardderchog sydd mor nodweddiadol o'i brintiau.