Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nhaernarfon

Mab i bensaer oedd Gillot a gafodd ei eni a'i hyfforddi ym Mharis. Dangosodd ei waith yn Arddangosfa Byd Paris ym 1900 ac roedd yn adnabyddus ym Mhrydain am ddarluniau mawr o ddigwyddiadau. Cynhyrchodd Gillot ddau ddarlun arall o ddigwyddiadau swyddogol ym Mhrydain ym 1911, sef 'Arolwg Spithead' a ' Choroni George V. 'Mae'r darlun hwn yn dangos Arwisgiad Dafydd, sef Edward VIII yn ddiweddarach, yng Nghastell Caernarfon ar 13 Gorffennaf 1911. Mae'r olygfa tua'r de-ddwyrain o Borth y Brenin. Ar y chwith mae Porth y Frenhines ac y dde y Tŵr Du. Yn y blaendir mae'r prif lwyfan â cherflun o Ddewi Sant arno. Mae Tywysog Cymru yn darllen ei araith yn union ar ôl ei arwisgiad. Wrth ei ymyl mae'r Brenin Siôr V yn eistedd mewn gwisg forwrol a'r Frenhines Mary mewn gwisg a het wen. O gwmpas y llwyfan mae pobl bwysig mewn lifrai a gwisgoedd derwyddol ac ar y chwith mae côr yn eistedd, yn cynnwys 200 o ferched mewn gwisg Gymreig. Ar ragfuriau Porth y Frenhines mae Trympedwyr Gwŷr Meirch y Teulu. Cafodd y darlun hwn ei gomisiynu gan Syr Alfred Mond, sef y Barwn Melchett wedyn (1868-1930). Ef oedd sylfaenydd ICI a rheolai hefyd y rhan fwyaf o faes glo carreg Cymru. Roedd yn bresennol yn yr Arwisgiad gan ei fod yn AS Rhyddfrydol dros Abertawe o 1910 i 1923.

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 2619

Creu/Cynhyrchu

GILLOT, Eugène Louis
Dyddiad: 1912

Derbyniad

Gift, 29/11/1920
Given by Sir Alfred Mond

Mesuriadau

Uchder (cm): 196.9
Lled (cm): 276.3
Uchder (in): 77
Lled (in): 108

Techneg

oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil
canvas

Lleoliad

Investiture Corridor

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.