Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Mountain Landscape - Cwm Trifaen

Caiff y dyfrlliw gorffenedig hwn ei ystyried yn un o weithiau Cymreig gorau Alfred Hunt. Mae’n dangos pen uchaf pantiog Cwm Tryfan, dyffryn rhewlifol ar ochr ogleddol y Glyderau ger Capel Curig yn Eryri. Mae’r olygfa yn edrych o rannau uchaf Nant Gwern y Gof tua’r de-orllewin, gyda chopa’r Glyder Fach, a’i chefnen serth, yn ymddangos drwy’r niwl ar y gorwel, a llethrau Tryfan i’w gweld ar y dde. Ymwelodd Hunt â’r gogledd ym 1855 a dychwelodd ym 1856 a 1857. Ysgrifennodd, ‘Yr wyf yng ngwlad y tamprwydd – a niwl a tharth... chawson ni ddim byd ond glaw … – erbyn hyn, mae’r tywydd wedi dal ers tro, ond mae’r oerfel (yng Nghwm Trifaen) yn annioddefol ...’ Mae gan Hunt ddiddordeb arbennig mewn mynyddoedd a strwythurau daearegol, ac mae’r ddau wedi’u darlunio’n dda iawn yn y llun hwn. Mae wedi cyfleu’r dirwedd gyda’i arddull fanwl gywir a dwys arferol.

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 24679

Creu/Cynhyrchu

HUNT, Alfred William
Dyddiad: 1856

Derbyniad

Purchase - ass Art Fund and donor, 16/6/2014
Purchased with support from The Art Fund and Christopher Gridley

Mesuriadau

Uchder (cm): 26.7
Lled (cm): 38.7

Techneg

watercolour and bodycolour on paper

Deunydd

watercolour
bodycolour

Lleoliad

In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.