Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Côr Eglwys Capuchin, Rhufain

Y cefndir yw cangell eglwys Santa Maria della Concezione. Ym 1809 meddianodd Napoleon Daleithiau'r Pab a diddymwyd mynachlogydd Rhufain.

Roedd Granet, arlunydd Ffrengig a oedd wedi ymsefydlu yn Rhufain, yn gresynu at hyn a cheisiodd gyfleu tangnefedd y clas.

Y cyfansoddiad hwn a'i gwnaeth yn adnabyddus ac mae ar gael mewn sawl fersiwn. Dyma a ddywedodd:

'Chwiliais yn ofer yn y mynachlogydd am yr heddwch hyfryd a fu imi unwaith. Aeth hynny â mi i fynachlog y Brodyr Cwcyllog ar y Piazza Barberini; ond doedd y Brodyr Cwcyllog ddim yno...ac roedd llwch yn dechrau meddiannu'r moldiau cerfiedig ar y gwaith pren hardd a fu, hyd yn ddiweddar, yn sgleinio i gyd. Roedd y ddarllenfa ganolog eisioes yn edrych fel dodrefnyn mewn stôr. Er gwaethaf yr unigrwydd, gallwn weld yn fy meddwl symudiadau pob un o'r mynachod...y nofisiaid ifainc gyda'i talcennau llyfn, ymostyngar... â'r hen ddynion gyda'u pennau llym a'u hwynepryd urddasol lle gwelech olion oes o fywyd caled. Cafodd fy ysbryd ei gyffroi gymaint gan yr holl syniadau hyn nes i mi benderfynu gwneud darlun mawr ar y pwnc.'

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 481

Creu/Cynhyrchu

GRANET, François-Marius
Dyddiad: 1817

Derbyniad

Purchase, 10/10/1979

Mesuriadau

Uchder (cm): 198
Lled (cm): 147.1
Uchder (in): 77
Lled (in): 57
h(cm) frame:256.2
h(cm)
w(cm) frame:207.8
w(cm)
d(cm) frame:16.5
d(cm)

Techneg

oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil
canvas

Lleoliad

In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.