Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Y Bardd

JONES, Thomas (1742-1803 Thomas Jones, a pupil of Richard Wilson, came from a wealthy landowning family in Radnorshire. During his lifetime he was known as a painter of landscapes and history paintings in the style of his master, but today he is better known for his oil sketches of Italy and Wales. Daeth Thomas Jones, oedd yn un o ddisgyblion Richard Wilson, o deulu o dirfeddiannwyr cyfoethog yn Sir Faesyfed. Yn ystod ei fywyd cafodd ei adnabod fel peintiwr tirluniau a pheintiadau hanesyddol yn null ei feistr, ond heddiw mae’n fwy adnabyddus am ei frasluniau olew o’r Eidal a Chymru)

Saif y bardd olaf ar ymyl clogwyn â thelyn yn ei ddwylo. Mae'n melltithio'r goresgynwyr Seisnig cyn neidio i"w farwolaeth. Mae'r peintiad hanesyddol dramatig hwn wedi dod yn eiconig i Gymru. Mae'n seiliedig ar gerdd Thomas Gray 'The Bard, 'ac mae'n adrodd hanes y gyflafan chwedlonol pan laddodd Edward I y beirdd Cymreig. Roedd beirdd yn uchel eu parch yng nghymdeithas Gymreig y cyfnod, ac ystyriwyd mai nhw oedd disgynyddion y derwyddon Celtaidd. Mae Jones yn gwneud y cysylltiad hwn trwy roi nodweddion derwyddol - barf hir wen a mantell gycyllog - i'w Fardd. Pwysleisia'r cylch cerrig sydd yn y cefndir, sy'n seiliedig ar Gôr y Cewri, hynafiaeth y derwydd. Dyma un o beintiadau cynnar Jones yn y dull mawreddog, lle mae'n defnyddio'r dirwedd fel cefndir ar gyfer golygfa o hanes, llenyddiaeth neu fytholeg. Ystyriodd Jones fod y darlun yn 'un o'r gorau a beintiais erioed'.

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 85

Creu/Cynhyrchu

JONES, Thomas
Dyddiad: 1774

Derbyniad

Purchase, 2/1965

Mesuriadau

Uchder (cm): 114.5
Lled (cm): 168
Uchder (in): 45
Lled (in): 66
h(cm) frame:135.5
h(cm)
w(cm) frame:107
w(cm)
d(cm) frame:10.5
d(cm)

Techneg

oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil
canvas

Lleoliad

Gallery 20

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.