Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Castell Caernarfon

WILSON, Richard (1714-1782 Richard Wilson, originally from Montgomeryshire, is often called ‘the Father of British landscapes’ for the key role he played in the development of the tradition, though he initially trained as a portrait painter. He became the first major artist to popularize images of Wales that went beyond topographical accuracy. Caiff Richard Wilson, sy’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, ei alw’n aml yn ‘Dad tirluniau Prydain’ am y rôl allweddol a chwaraeodd yn natblygiad y traddodiad, er iddo hyfforddi fel peintiwr portreadau i gychwyn. Ef oedd yr artist mawr cyntaf i boblogeiddio delweddau o Gymru oedd yn mynd y tu hwnt i gywirdeb topograffaidd.)

Mae mam a'i phlant yn chwarae o flaen adfeilion Castell Caernarfon, symbol o orthrwm Lloegr; Codwyd Castell Caernarfon, man geni Tywysog cyntaf Cymru, gan Edward I. Peintiodd Wilson lawer golygfa yn y lle sy'n amrywio o ran cywirdeb topograffyddol. Tref porthladd brysur oedd Caernarfon yn y cyfnod hwn, ond mae Wilson wedi gweddnewid y dirwedd i greu darlun o gytgord delfrydol.

Mae'r darlun yn tywynnu â golau Eidalaidd ysgafn sy'n annodweddiadol o Gymru. Yn aml peintiai Wilson ei dirwedd frodorol a'i feddwl yn llawn atgofion o'r Eidal, wedi'i ysbrydoli gan waith artistiaid Ewropeaidd fel Claude a Cuyp. Mae'r golau aur yn debyg i olau campagna Rhufain. Fel ei olygfeydd o olion Rhufeinig hynafol, y thema yw breuder campau dyn.

Mae golygfeydd Cymreig Wilson ymysg ei weithiau pwysicaf. Un tro fe honodd ei feistr, Thomas Wright, bod Wilson yn "hoff o'i famwlad". Mae rhai wedi honni mai balchder cenedlaethol a'i ysbrydolodd i beintio ei famwlad, tra bod eraill yn dadlau fod Cymru'n destun oedd yn addas o ran ei ddyheadau fel peintiwr tirluniau.

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 73

Creu/Cynhyrchu

WILSON, Richard
Dyddiad: 1760 ca

Derbyniad

Purchase, 1913

Mesuriadau

Uchder (cm): 63.5
Lled (cm): 125.1
Uchder (in): 25
Lled (in): 49

Techneg

canvas

Deunydd

oil

Lleoliad

In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.