Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
The Blind Welsh Harper
Mae telynor dall tlawd yn eistedd ar fainc, ei delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ci wrth ei ochr. Wedi'u gwasgaru o'i amgylch mae rhywfaint o eiddo: ffon gerdded, pâr o fenig, a dau fath o ebill i diwnio’r delyn. Mae poster wedi'i rolio dan y fainc yn awgrymu ei fod yn cystadlu, neu wedi bod yn cystadlu, mewn Eisteddfod. Mae telyn fechan wedi'i phinio i'w siaced. Roedd y rhain weithiau'n cael eu rhoi fel gwobrau yn yr Eisteddfod ar gyfer perfformiadau ar y delyn. Wrth ei ochr ar y fainc mae jwg cwrw o grochenwaith caled a elwir yn 'jwg hela' gan eu bod yn aml yn cael eu haddurno â golygfeydd hela gwledig. Mae’r jwg yn awgrymu dathliadau - er nad yw'r telynor yma yn edrych yn llawen iawn! Roedd telynau'n aml yn cael eu canu mewn tafarndai, yn yr awyr agored, ac mewn eisteddfodau fel cyfeiliant ar gyfer dawnsio, canu ac adrodd. Ond erbyn y 19eg ganrif, roedd y delyn deires yn llai poblogaidd, er i Arglwyddes Llanofer ac eraill geisio adfywio'r traddodiad. Roedd rhai pobl yn beio anghydffurfwyr piwritanaidd am y dirywiad ym mhoblogrwydd y delyn, am iddynt lywio pobl i ffwrdd o bleserau synhwyraidd 'pechadurus' fel cerddoriaeth a dawnsio. Yn 1802, ysgrifennodd Edward Jones 'mae Cymru, a oedd yn un o wledydd hapusaf y byd gynt, ar ei ffordd i fod y diflasaf'. Canu'r delyn oedd un o'r ychydig opsiynau ar gael i bobl ddall adeg hynny. Tua 1823, sefydlwyd cymdeithas yn Aberhonddu i ddysgu bechgyn dall i ganu'r delyn deires. Roedd hyn yn ymgais i adfywio traddodiad y delyn deires, yn ogystal ag ymgais i roi modd i bobl ddall gynnal eu hunain. Ond tlawd a fu llawer o delynorion dall. Mae hyn yn bwydo mewn i gysylltiadau ystrydebol rhwng dallineb a thlodi, dirywiad cymdeithasol a cholled. O dan y llun, mae dyfyniad o Caniad y Gog i Feirionydd, alaw werin boblogaidd gan y bardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn). Ar waelod y dudalen mae'r geiriau 'Telyn Fwyn Cymru', wedi'u hysgrifennu yn yr wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Roedd yr artist John Orlando Parry hefyd yn gerddor, ac yn ddigrifwr poblogaidd. Wedi'i annog gan ei dad, John Parry (Bardd Alaw), roedd hefyd wedi dysgu i ganu'r delyn. Cyfrannodd y ddau ddyn lawer at fywyd diwylliannol Cymreig ac roeddent yn gefnogwyr brwd o'r Eisteddfod. Yn 1838, cyhoeddodd Bardd Alaw lyfr, The Welsh Harper. Mae'n bosibl y bwriadwyd y braslun hwn fel llun ar gyfer y llyfr, er nad aeth y dyluniad i'r wasg.