Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Henry Knight o Landudwg (1738-1772) a'i dri phlentyn
Ganwyd Zoffany yn yr Almaen a bu'n astudio yn Rhufain cyn symud i Lundain ym 1760. Roedd yn un o hoff arlunwyr Siôr III ac fe'i henebwyd yn aelod cychwynnol o'r Academi Frenhinol gan y Brenin. Cyrhaeddodd binacl ei enwogrwydd ym 1770. Roedd Henry Knight (1732-72) o Landudwg yn Sir Forgannwg yn gapten yn y 70ain gwarchodlu o droedfilwyr yn y flwyddyn 1762. Mae'n debyg iddo hefyd wasnaethu gyda'r 15fed gwarchodlu o farchfilwyr, gan fod y darlun yma yn dangos ei fab hynaf yn rhoi cynnig ar wisgo helmed y gatrawd honno, gyda'r arysgrif Emsdorf arno. Gadawodd Catherine, gwraig Knight, ei gŵr ym 1769 a dangosir ef yma gyda'i feibion Henry a Robert a'i ferch Ethelreda. Mae'r olygfa o lan môr yn y darlun yn cyfeirio mae'n debyg at leoliad Llandudwg, ychydig filltiroedd o'r arfordir, rhwng Pen-y-bont a Phorthcawl. Mae motiff y goeden a ddefnyddir yn aml ym mhortreadau Zoffany o grwpiau o bobl, yn rhoi pwyslais cyfartal i bob un o'r ffigyrau. Mae cyflwr y darlun mawreddog hwn o grŵp teuluol yn rhyfeddol o dda ac mae'n cyfleu yn llwyddiannus iawn y gymdeithas gyfoethog a soffistigedig a fodolai ymhlith bonheddwyr De Cymru yng nghanol y 18fed ganrif.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.