Aur o Gymru’r Oes Efydd
Aur o Gymru'r Oes Efydd
Mawrth, Fenws a Ciwpid
Yn Fenis daeth Palma Vecchio o dan ddylanwad Bellini, Cima a Titian. Mae lliwiau llachar, golau clir a merched hardd gwallt golau yn nodweddiadol o'i arddull bersonol. Mae'r cyfansoddiad hwn o tua 1520 yn tynnu ar chwedloniaeth gynharach gan Titian. Mae Gwener mewn gwisg syber wedi tawelu Mawrth, duw rhyfel a Chiwpid, duw cariad ac mae'n dal ei saeth tra'i fod ef yn datod ei fwa. Mae Gwener yn tynnu sylw at ddrychiolaeth, sef Iau mae'n debyg, ar y dde. Ni ellir dilyn y stori'n dda iawn, ond mae'r gwrthgyferbyniad rhwng cariad sanctaidd a chariad bydol yn fwriadol mae'n debyg. Mae awyrgylch fywiog y cefndir yn nodweddiadol o Ysgol Fenis. Mae'r ffrâm gilt addurnol yn enghraifft wych o fath o'r unfed ganrif ar bymtheg a elwid yn 'ffrâm Sansovino' ar ôl y cerflunydd a'r pensaer Jacopo Sansovino. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y llun hwn yng nghasgliad y Brenin Louis Philippe.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.