Rhoi Gwrthrych i Amgueddfa Cymru
Rhoi Gwrthrych i’r Amgueddfa
Mae ein casgliad yn cynnwys sawl gwrthrych a roddwyd drwy garedigrwydd aelodau’r cyhoedd ac rydym yn barod bob tro i drafod rhoddion posibl i’n casgliadau.
Ein Polisi Casgliadau
Amlinellir yn y ‘Strategaethau Casglu’ a’r ‘Polisi Datblygu Casgliadau’ pa fath o eitemau a gesglir gennym ac esbonnir pa eitemau na allwn eu derbyn. Maent yn ystyried ein hadnoddau cadwraeth a’n gallu i ddogfennu a storio eitemau, er mwyn eu cadw at y dyfodol. Mae’n bwysig hefyd nad ydym yn dyblygu deunyddiau nac yn derbyn gwrthrychau fyddai’n fwy addas i’w cadw yn rhywle arall. At hyn, ni allwn dderbyn popeth a gynigir i ni. Gellir gweld copïau o’r ddwy ddogfen ar ein gwefan:
Gwasanaethau CasgliadauSut i fynd ati?
Os oes gennych eitem y tybiwch y bydd o ddiddordeb i ni, cysylltwch â ni i sôn amdani. Efallai y gofynnwn i chi ddod a dangos yr eitem i ni os yw hynny’n bosibl. Cysylltwch â ni o flaen llaw yn hytrach na chyrraedd heb apwyntiad os gwelwch yn dda. Wrth wneud hyn gallwn sicrhau bod rhywun ar gael i’ch cyfarfod ac na fydd eich siwrnai yn wastraff. Peidiwch ag anfon eitemau drwy’r post neu eu gadael yn yr Amgueddfa yn ddienw. Sylwer: nid ydym yn prisio gwrthrychau a dim ond mewn achosion arbennig y gallwn brynu gwrthrychau.
Ni allwn wneud penderfyniad i dderbyn gwrthrych yn syth fel arfer. Carem gadw’r gwrthrych am gyfnod byr i’w astudio’n fanylach a sicrhau ei fod yn ateb gofynion ein Polisi Datblygu Casgliadau. Byddwn yn rhoi derbynneb i chi ar ffurf ‘Ffurflen Gais Gwrthrych’ fydd yn cofnodi’ch manylion a gwybodaeth sylfaenol am y gwrthrych y dymunwch ei roi yn rhodd. Bydd angen i chi gadw eich copi er mwyn ei ddangos i gasglu’ch gwrthrych wrth ddychwelyd i’r Amgueddfa.
Os caiff eich gwrthrych ei dderbyn
Os caiff eich gwrthrych ei dderbyn i’n casgliadau byddwn yn gofyn i chi arwyddo ‘Ffurflen Trosglwyddo Teitl’. Mae’r ffurflen hon yn rhoi perchnogaeth eich gwrthrych i ni yn barhaol. Golyga hyn na fyddwch yn gallu hawlio’r gwrthrych yn ôl yn y dyfodol, er ein bod yn hapus i drefnu apwyntiadau fel y gall rhoddwyr weld eu rhoddion yn y dyfodol. Lle bo’n addas, bydd y ffurflen hon yn trosglwyddo unrhyw hawlfraint ar y gwrthrych sydd yn eich meddiant fydd yn galluogi’r Amgueddfa i ddefnyddio delweddau neu gopïau at ystod o ddefnyddiau yn cynnwys arddangosfeydd, llyfrau a’r we.
Byddwn weithiau’n gofyn os byddech yn barod i roi eich gwrthrych i’n ‘casgliadau cefnogol’. Mae ein casgliadau cefnogol yn cynnwys casgliadau all gael eu trin a’u trafod at ddibenion addysgiadol neu gael eu defnyddio i ddodrefnu’r tai yn Sain Ffagan. Maent yn rhan allweddol o ddod â hanes yn fyw a byddant yn cael eu mwynhau gan filoedd. Fodd bynnag, gall defnydd helaeth eu niweidio a gallant beidio cael eu defnyddio yn y pen draw.
Pryd fyddan nhw’n cael eu harddangos?
Mae’n annhebygol y caiff eich gwrthrych ei arddangos yn syth. Mae’r Amgueddfa yn gofalu am filiynau o wrthrychau a threfnir arddangosiadau flynyddoedd ymlaen llaw. Caiff eich gwrthrych ei ddogfennu’n drylwyr a’i storio, ei ryddhau ar gyfer ymchwil, at ddiben addysgol, a gall gael ei gynnwys mewn arddangosiadau yn y dyfodol os yn addas.
Os na fydd eich gwrthrych yn cael ei dderbyn
Gall y rheswm dros wrthod derbyn eich cynnig fod yn un o nifer. Nid tramgwydd bwriadol mohono. Gall ein staff eich cynghori os oes Amgueddfeydd eraill fyddai â diddordeb yn eich gwrthrych ac rydym yn ddiolchgar eich bod yn ystyried cynnig gwrthrych yn rhodd i’r Amgueddfa.