Partneriaethau Corfforaethol
Gwreiddiau Dwfn
Gosodwyd ein sylfaen gan rai o Gymry mwyaf blaengar eu hoes: diwydiannwyr, arloeswyr a phobol y pethe.
Mae'r elusen a sefydlwyd ganddyn nhw 110 mlynedd yn ôl tyfu'n gadarnle sy'n adlewyrchu diwylliant a gwerthoedd ein cymunedau.
Ymunwch â'r linach hon o gyfrannwyr elusennol:
Aelodaeth gorfforaetholDod yn Noddwr CorfforaetholLlun: Seiliau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 1915
Gofodau Hynod
Rydym ni wedi bod yn gofalu am gasgliadau ceinia' Cymru ers dros ganrif, a'n eu harddangos mewn gofodau rhyfeddol.
O neuaddau marmor i neuadd y gweithwyr: gall ein pecynnau corfforaethol gynnwys defnydd o'r gofodau hyn ar gyfer dathliadau a digwyddiadau.
Ein Ffordd o Weithio
Gyda nawdd corfforaethol, rydym wedi gallu darparu prentisiaethau a chyfarpar i bobol ifanc gael ehangu eu gorwelion a hogi eu sgiliau.
Ni yw darparwr addysg tu-hwnt-i'r-dosbarth mwyaf Cymru - a mae'n hamgueddfeydd yn lefydd ble y gall unrhyw un ddod i ddysgu ac ennill hyder, beth bynnag fo'u cefndir.
Gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth go-iawn. Cysylltwch â'nSwyddog Partneriaethau Corfforaethol i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.
Ein Cynulleidfaoedd
Mae dros 1.6 miliwn o bobl o bob math yn ymweld â ni bob blwyddyn.
Mae rhai o'n harddangosfeydd mwyaf poblogaidd wedi'u brandio ar y cyd â'n noddwyr corfforaethol - o arddangosfeydd gwyddoniaeth i deuluoedd i gelf gyfoes.
Yn rhyngwladol, mae ein cynulleidfa ddigidol yn estyn ar draws y byd - rydym yn sôn am Gymru wrth 150,000 o ddilynwyr, bob dydd, ac mae'n cynulleidfaoedd digidol yn ein helpu i ymddangos ar dros 2 filiwn o sgriniau, o wythnos i wythnos.
Mentrau AOCC
Mae tîm Mentrau AOCC Cyf. yn gweithio gyda'n partneriaid i greu cyfleon masnachol gwych, ac i ddod â'r gorau o Gymru i'n siopau safle a'n siop ar-lein.
Os hoffech chi drafod gweithio gyda Mentrau AOCC, neu os hoffech chi fanteisio ar ein gwasanaeth Ffilmio Lleoliad neu Logi Preifat, cysylltwch â'r tîm.