Dod yn Noddwr

Yng Nghalon Cymru

Ein nod yw i ddod â phobl sy'n ymddiddori mewn diwylliant, gwyddorau a threftadaeth Gymreig at ei gilydd yn ein hamgueddfeydd ar gyfer profiadau unigryw.

Rydym ni eisiau eich ysbrydoli chi. Os ydych chi'n chwilio am rywbeth sy'n fwy o hwyl na 'rhwydweithio' - ymunwch â'n noddwyr.

Cysylltwch â Ni

Profiadau Arbennig

O goginio cyn-oesol i wobrau celf rhyngwladol, mae arlwy gwych o ddigwyddiadau ar gael i'n Noddwyr.

Rydym ni'n dod â phobl at ei gilydd sydd eisiau gwarchod ein treftadaeth, datblygu artistiaid newydd Cymreig, neu am ein helpu i gynnal ein rhaglen ymchwil.

Cysylltwch â ni neu lawrlwythwch ffurflen gais. Mae cost noddi yn dechrau o £300 y flwyddyn.

Eich Cefnogaeth ar Waith:

Mae'n Noddwyr yn darparu ffynhonnell hanfodol o incwm, sy'n golygu ein bod ni'n gallu ymateb ac addasu i'r byd modern

Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n gallu i geisio am grantiau ariannu cyfatebol; i gaffael gwrthrychau o bwysigrwydd cenedlaethol i'n casgliadau ac i'n gwaith yng nghymunedau Cymru.

Buddion

I ddangos ein diolchgarwch, 'dyn ni'n estyn croeso cynnes iawn i'n noddwyr i agoriadau arddangosfeydd, digwyddiadau arbennig a theithiau 'tu ôl i'r llen' gyda'n curaduron.

Mae Noddwyr hefyd yn derbyn dau

gylchgrawn y flwyddyn a cherdyn aelodaeth yn rhoi gostyngiad o 10% yn siopau a bwytai Amgueddfa Cymru.. Rydym ni'n cynnal digwyddiadau achlysurol yn Llundain hefyd - felly mae noddi yn anrheg da i'r Cymro, neu'r Gymraes, oddi cartre'.

Lawrlwytho llyfryn Noddwyr am fwy o fanylion am fuddion noddwyr.
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Blas ar Ddigwyddiadau'r Noddwyr

Os hoffech chi brofi sut beth yw bod yn Noddwr, ymunwch â ni am ddigwyddiad i roi blas:

cofrestru diddordeb mewn mynychu digwyddiad.