Rhoddion Sylweddol

Mae rhoddion sylweddol yn rhoi caniatad i ni fod yn uchelgeisiol, i greu a gweithredu cynlluniau mawrion ar lefel genedlaethol: orielau newydd, cyfleusterau a gwaith yn ein cymunedau.

Mae Ymddiriedolaethau a Sefydliadau yn darparu cymorth heb-ei-ail i ni wrth i ni weithio ar gadw, ymchwilio ac adlewyrchu'r Gymru o'n cwmpas.

I drafod gweithio gyda'n gilydd, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n

Swyddfa Ddatblygu.

Cyd-weithio a Chyfranogaeth

Rydym ni'n cyd-weithio gydag Ymddiriedolaethau a Sefydliadau ar brosiectau mawrion, yn arbennig yr rheiny sy'n rhannu ein gwerthoedd am gyfranogaeth a mynediad.

Rydym ni'n credu bod amgueddfeydd yn meddu ar rym all newid bywydau er gwell; a mai'n dyletsydd yw sicrhau bod pobl Cymru yn cael mynediad at eu celfyddydau, eu treftadaeth a'u gwyddorau, beth bynnag fo'u hoedran, eu hil neu eu cefndir.

Arloesi a Rhagoriaeth

Mae ail-ddatblygiad diweddar Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yn dangos ein bod yn barod i dorchi llewys, i arloesi ac i gyd-weithio.

Rydym ni'n arweinwyr sector mewn addysg anffurfiol, cyfryngau digidol a chynllunio cyfranogol, yn ogystal â meithrin arbenigedd pwnc mewn meysydd mor eang â phetroleg, mwnyddiaeth, hanes celf a bywyd gwerin.

Dysgwch fwy am

gweithdy

Tu Hwnt i'r Cesyn Gwydr

Beth allen ni wneud gyda'n gilydd?

Mae disgwyliadau ein ymwelwyr yn newid a rydym yn symud tu hwnt i'r model 'casyn gwydr'. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn symud gyda'r oes a buddsoddi yn ein is-adeiledd, gofodau a thechnoleg.

Cysylltwch â ni i drafod sut y gallen ni weithio gyda'n gilydd.