Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Roedd arddangosfa Cymru... Balchder i'w gweld yn Sain Ffagan tan 31 Rhagfyr 2023, a bu’n archwilio themâu protest a balchder. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys gwrthrychau byrhoedlog o gasgliad LHDTC+ yr Amgueddfa, fel baneri protest, bathodynnau ymgyrchu, a thaflenni a phosteri o ddigwyddiadau Pride ledled Cymru. Mae’r eitemau sydd wedi eu casglu gan ein tîm neu eu rhoi gan y cyhoedd yn adlewyrchu bywydau bob dydd a phrofiadau bywyd y gymuned LHDTC+ ac yn gynrychiolaeth gywir o’u hanes cymdeithasol.