Glitter Cymru
Mae’r casgliad hefyd yn gweithio i ddiogelu hanes cwiar cyfoes Cymru, ac enghraifft ddiweddar o hynny yw’r placard a ddefnyddiwyd ym mhrotestiadau BLM 2020 gan aelodau Glitter Cymru.
Grŵp cymorth ar gyfer pobl LHDTC+ o liw yw Glitter Cymru. Cyfrannodd sylfaenydd Glitter, Vish, gofnod ar ein blog sy’n rhoi cipolwg ar waith y sefydliad, sydd wedi’i goffáu gan yr Amgueddfa yn ein casgliad, gyda baner y sefydliad.