Cofio Terrence Higgins

Ganwyd Terrence Higgins yn Sir Benfro ym 1945 a bu farw ym 1982 – roedd yn un o'r bobl gyntaf ym Mhrydain i farw o afiechyd yn gysylltiedig ag AIDS. I nodi deugain mlynedd ers ei farwolaeth, mae'r arddangosfa hon yn cynnwys portread newydd i’r Amgueddfa o Terrence Higgins gan yr artist Nathan Wyburn. Mae'r portread ei hun yn cynnwys stampiau inc Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, elusen a sefydlwyd ym 1982 er mwyn addysgu, cefnogi a thaflu goleuni ar y stigma yn ogystal ag achosion newydd o HIV.

Ochr yn ochr â'r portread, dangoswyd y plac gwreiddiol oddi ar y goeden sy'n coffáu pobl o Gymru a fu farw o AIDS. Nod yr arddangosfa oedd coffáu’r rhai a gollwyd yn ogystal ag amlygu’r sefydliadau sy’n brwydro dros newid cadarnhaol ac sydd wedi’u sefydlu o ganlyniad i bandemig AIDS.