Pride

Pride Abertawe

Mae gŵyl Pride Abertawe yn ddigwyddiad llwyddiannus rheolaidd lle gall yr Amgueddfa roi llwyfan i bobl LHDTC+ a Pride yng Nghymru. Yn 2022 cydweithiodd cymuned Welsh Ballroom gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau er mwyn llwyfannu a dathlu perfformwyr cwiar Cymru. Roedd gŵyl Pride Abertawe 2023 yn cynnwys gweithdai fel gwneud bathodynnau, sgiliau syrcas a pherfformiadau gan y WoW Dolls. Cafwyd 'cornel siaradwyr balch' hefyd – elfen newydd gyffrous yn cynnwys dwy sgwrs hynod ddiddorol; sef Sgwrs gyda Mike Parker a Chwedlau Cwiar o Gymru gan Jane Joy.

Pride Bach

Rhaglen deuluol, hwyliog a gynlluniwyd i ddathlu bod yn hapus a balch, a gwybod pwy ydych chi. Roedd Pride Bach yn cynnwys amser stori dwyieithog, paentio wynebau enfys a chrefftau cynhwysol i blant. Bydd y digwyddiad hwn i deuluoedd yn parhau i ddathlu teuluoedd cwiar a rhoi lle i’r gymuned gysylltu a dathlu.